Goroesodd y mwyafrif o gemau pêl droed y penwythnos hwn gan roi cyfle i’r Cymry greu argraff gyda’u clybiau.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd ambell eithriad wrth i gemau Caerlŷr yn Burnley a gêm ddarbi gogledd Llundain rhwng Spurs ac Arsenal gael eu gohirio oherwydd achosion covid. Dim gêm felly i Danny Ward, Wayne Hennessey, Connor Roberts, Joe Rodon a Ben Davies.

Fe wnaeth Spurs chwarae ganol wythnos serch hynny yn ail gymal rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Chelsea. Colli fu eu hanes gyda Davies yn chwarae’r gêm gyfan.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd y cefnwyr, Neco Williams a Fin Stevens, yn y gêm rhwng Lerpwl a Brentford ddydd Sul.

Golygodd hynny mai’r unig Gymro i chwarae yn yr Uwch Gynghrair y penwythnos hwn a oedd Dan James. Dechreuodd yntau a chwarae’r gêm gyfan wrth i Leeds drechu West Ham o dair gôl i ddwy ddydd Sul. Nid oedd ei gyd-wladwr, Tyler Roberts, yn y garfan.

Dan James

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Abertawe wynebu Huddersfield ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ben Cabango yn amddiffyn yr Elyrch a Sorba Thomas fel ôl-asgellwr i’r gwrthwynebwyr.

Colli a fu hanes Caerdydd wrth iddynt groesawu Blackburn i Stadiwm y Ddinas gwag. Dechreuodd Will Vaulks a Mark Harris y gêm i’r Adar Gleision ac roedd ymddangosiadau oddi ar y fainc i Isaak Davies a Rubin Colwill. Nid oedd Kieffer Moore yn y garfan wrth i’r dyfalu am ei ddyfodol barhau.

Tom Lawrence a oedd arwr Derby wrth iddynt drechu Sheffield United o ddwy gôl i ddim a chodi oddi ar waelod y tabl. Rhwydodd y Cymro ddwy gôl wych mewn cyfnod o naw munud yn yr ail hanner, ei chweched a’i seithfed gôl o’r tymor. Roedd Rhys Norrington-Davies yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Ym mhen arall y tabl, cododd Fulham i’r brig gyda buddugoliaeth swmpus o chwe gôl i ddwy yn erbyn Bristol City. Dechreuodd Harry Wilson gan greu’r gyntaf o dair gôl Alekandar Mitrovic. Daeth hynny ychydig ddyddiau wedi i’r Cymro greu dwy a sgorio dwy mewn buddugoliaeth swmpus arall, o saith gôl i ddim yn erbyn Reading ganol wythnos. Roedd Andy King yn nhîm Bristol City yn y gêm ddydd Sadwrn ac yn wir, fe greodd yntau un o goliau ei dîm yntau hefyd.

Un arall, fel Wilson, sydd yn rhan o nifer uchel o goliau ei dîm y tymor hwn yw Brennan Johnson gyda Nottingham Forest. Nid oedd y penwythnos hwn yn eithriad wrth iddo greu gôl hwyr Lewis Grabban a gipiodd y tri phwynt i Forest yn erbyn Millwall. Dechreuodd Tom Bradshaw y gêm i Millwall ond bu rhaid iddo adael y cae wedi cwta hanner awr oherwydd anaf, siom ag yntau wedi bod yn chwarae’n dda ddiweddar.

Roedd buddugoliaeth i Neil Taylor gyda Middlesbrough, y cefnwr chwith yn chwarae’r gêm gyfan wrth iddynt guro Reading o ddwy gôl i un.

Cyfartal gôl yr un a oedd hi rhwng Preston a Birmingham yn Deepdale. Dechreuodd Andrew Hughes a Ched Evans y gêm i’r tîm cartref ac roedd y bachgen ifanc, Jordan James, yng nghanol cae i’r ymwelwyr.

Ildiodd Dave Cornell bedair gwaith rhwng y pyst i Peterborough yn erbyn Coventry, pedair i un y sgôr.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham i Bournemouth wrth iddynt golli yn annisgwyl o dair gôl i ddwyn yn erbyn Luton. Ar y fainc yr oedd George Thomas ar gyfer buddugoliaeth QPR dros West Brom hefyd.

Ymweliad Stoke â Hull a oedd unig gêm dydd Sul, buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim i’r ymwelwyr. Chwaraeodd James Chester a Joe Allen y gêm gyfan i’r Potters ond ar y fainc yr oedd Adam Davies a Morgan Fox. Felly hefyd Matthew Smith i’r Teigrod.

 

*

 

Cynghreiriau is

Cododd Wycombe i frig yr Adran Gyntaf gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim dros Rydychen. Nid oedd Sam Vokes yn y garfan ond roedd Adam Przybek ar y fainc a chwaraeodd Joe Jacobson y gêm gyfan i’r Wanderers. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Billy Bodin i’r gwrthwynebwyr.

Rotherham a gafodd eu disodli ar y brig gan Wycombe wedi iddynt hwy golli o gôl i ddim yn erbyn Fleetwood, tîm newydd Ellis Harrison. Sgoriodd cyn flaenwr Portsmouth yn ei gêm gyntaf dros ei glwb newydd yr wythnos ddiwethaf ac roedd yn y tîm eto’r wythnos hon ar gyfer y fuddugoliaeth dda yma.

Mae Wigan yn y frwydr am y ddau safle uchaf o hyd ar ôl ennill o ddwy gôl i un yn Doncaster gyda Gwion Edwards yn dod i’r cae fel eilydd am deg munud olaf.

Roedd pwynt annisgwyl i Accrington yn erbyn Sunderland diolch i gôl annisgwyl gan y cefnwr ifanc, Mitch Clarke.

Roedd pum Cymro ar y cae wrth i Bolton drechu Ipswich o ddwy gôl i ddim. Dechreuodd Gethin Jones, Declan John a Jordan Williams i Bolton ac roedd Wes Burns a Lee Evans yn nhîm Ipswich. Mae Josh Sheehan a Lloyd Isgrove yn parhau i fod wedi’u hanafu i Bolton.

Dechreuodd tri Chymro gêm ddi sgôr Crewe yn erbyn yr Amwythig; Dave Richards yn y gôl, Billy Sass-Davies yn yr amddiffyn a Tom Lowery yng nghanol cae.

Cafodd Charlton gêm gyfartal gôl yr un yn Cheltenham. Nid oedd Chris Gunter yng ngharfan yr Addicks ond dechreuodd Adam Matthews gan chwarae ychydig dros awr. Owen Evans a oedd yn y gôl i Cheltenham ac roedd Ben Williams ar y fainc.

Dechreuodd Liam Cullen ei gêm gyntaf i Lincoln ers ymuno ar fenthyg o Abertawe, colli a fu ei hanes yntau a Regan Poole serch hynny, o gôl i ddim yn erbyn Caergrawnt.

Bu’n rhaid i James Wilson ildio ei le yn nhîm Plymouth wrth iddynt addasu i system tri yn y cefn ar gyfer eu gêm yn erbyn Sheffield Wednesday. Aros ar y fainc a wnaeth yr amddiffynnwr ond fe ddaeth Ryan Broom a Luke Jephcott oddi arni fel eilyddion ail hanner wrth i’w tîm golli o bedair gôl i ddwy.

Colli a fu hanes Portsmouth yn erbyn MK Dons. Roeddynt eisoes ddwy gôl i ddim ar ei hôl hi cyn i Kieron Freeman greu gôl i George Hirst. Dechreuodd Joe Morrell i Pompey hefyd a daeth Louis Thompson oddi ar y fainc.

Yn yr Ail Adran, Jonny Williams a sgoriodd y gôl agoriadol wrth i Swindon guro Port Vale o dair i un.

Colli fu hanes Tom King, y gôl-geidwad yn ildio ddwywaith wrth i Salford golli o ddwy gôl i un yn Bradford.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Nid yw’r gemau’n ail ddechrau yn Uwch Gynghrair yr Alban tan yr wythnos hon ond nid felly yn y Bencampwriaeth. Cadwodd Owain Fôn Williams lechen lân wrth i Dunfermline guro ei gyn glwb, Hamilton, o gôl i ddim ddydd Sadwrn. Nid yw’r tri phwynt yn ddigon i’w codi o waelod y tabl ond maent yn cau’r bwlch ar Queen of the South.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd James Lawrence ar gyfer gêm gyfartal St.Pauli yn erbyn Erzgebirge yn yr Almaen ddydd Sadwrn ac nid oedd Rabbi Matondo yng ngharfan Cercle Brugge ar gyfer eu buddugoliaeth hwy yn Eupen ym mhrif adran Gwlad Belg ddydd Sul, siom ag yntau ar rediad mor dda yn ddiweddar.

Parhau y mae’r dyfalu am ddyfodol Aaron Ramsey ond mae’n eithaf amlwg nad yn yr Eidal y bydd hwnnw. Mae Ethan Ampadu ar y llaw arall yn chwarae’n rheolaidd i Venezia yn Serie A. Chwaraeodd yng nghanol yr amddiffyn yn erbyn Atalanta ganol wythnos cyn chwarae fel cefnwr dde yn y gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Empoli ddydd Sul.