Bydd yn rhaid i’r chwaraewr tenis o Serbia, Novak Djokovic adael Awstralia ar ôl colli ei apêl ddiweddaraf yn y llys yn erbyn y penderfyniad i ganslo’i fisa.

Daeth cadarnhad o’r penderfyniad unfrydol yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ffederal Awstralia, ynghyd â gwaharddiad rhag mynd i’r wlad eto am dair blynedd.

Roedd Djokovic yn anelu am ddegfed tlws yn y gystadleuaeth, ynghyd ag 21ain tlws yn un o’r prif gystadlaethau.

Yn ôl y Serbiad mewn datganiad, fydd e ddim yn apelio eto ac mae’n dweud y bydd e’n cydymffurfio â’r awdurdodau er ei fod e wedi cael “siom eithriadol”.

Fe fu’r barnwyr yn trafod yr achos am ychydig dros ddwy awr ar ôl clywed dadleuon cyfreithwyr.

Cefndir

Penderfynodd Alex Hawke, Gweinidog Mudo Awstralia, ganslo fisa Novak Djokovic gan ddefnyddio pwerau personol ar ôl i’r chwaraewr ennill apêl yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol i’w atal e rhag aros yn y wlad.

Treuliodd Djokovic beth amser mewn gwesty cwarantîn wrth iddo baratoi i herio Miomir Kecmanovic yn y gystadleuaeth fory (dydd Llun, Ionawr 17).

Salvatore Caruso fydd yn cymryd ei le yn y gystadleuaeth.

Roedd penderfyniad Hawke yn seiliedig ar bryderon ynghylch iechyd y cyhoedd a’r perygl y gallai daliadau Djokovic, sy’n gwrthwynebu brechlynnau Covid-19, gael effaith negyddol ar ymdrechion y wlad i frwydro yn erbyn y feirws.

Roedd Djokovic wedi bod yn dadlau ei fod e wedi’i eithrio rhag cael ei frechu oherwydd ei fod e eisoes wedi cael y feirws, ac roedd helynt ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau ar ôl cael gwybod ei fod e wedi profi’n bositif.

Roedd yn rhaid i gyfreithwyr Djokovic brofi bod Hawke wedi gweithredu y tu hwnt i’w bwerau neu fod ei benderfyniad yn afresymol.

Roedden nhw’n canolbwyntio ar dair elfen, sef na fyddai ei bresenoldeb yn arwain at gynnydd mewn gwrthwynebiadau i’r brechlynnau, nad yw e’n gwrthwynebu brechlynnau ac nad oedd Hawke wedi ystyried y byddai ei alltudio o’r wlad yn arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i’r mudiad gwrth-frechu.

Yn ôl Djokovic, dydy e ddim yn gwrthwynebu brechlynnau, ond ei fod e’n gwrthwynebu gorfod cael brechlyn i chwarae mewn cystadlaethau.

Mae Djokovic wedi cael cefnogaeth ei gyd-chwaraewr Nick Kyrgios, er bod y cyhoedd ar y cyfan yn ei wrthwynebu.