Ardaloedd gwledig fydd yn cael eu taro waethaf gan y cynnydd arfaethedig mewn biliau ynni, yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Yn dilyn ymchwil gan y blaid, maen nhw’n nodi bod saith ardal yng Nghymru ymhlith yr 20 ardal sydd am weld y cynnydd mwyaf mewn costau ledled y Deyrnas Unedig.

Ym mis Ebrill, bydd y cap ar filiau ynni yn codi i £1,865, ac mae disgwyl y bydd y ffigwr hwnnw yn codi’n uwch na £2,000 erbyn mis Hydref eleni, yn ôl arbenigwyr.

Mae’n debyg mai Ceredigion fydd yn gweld y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a’r ail uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda biliau’n codi cymaint â £863 i rai.

Yr ardaloedd eraill yng Nghymru sydd yn yr 20 uchaf yw Gwynedd, Powys, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Gâr ac Ynys Môn.

‘Teuluoedd yn wynebu hunllef’

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, nad yw’n “fawr o syndod” mai ardaloedd gwledig sy’n wynebu’r cynnydd uchaf mewn biliau ynni.

“Mae teuluoedd yn wynebu hunllef gyda’u biliau ynni,” meddai.

“Yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn cysgu wrth y llyw. Maen nhw wedi methu ag amddiffyn pobol fregus rhag yr argyfwng costau byw hwn.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw am ddyblu ac ehangu ar y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes a dyblu’r Taliadau Tanwydd Gaeaf i amddiffyn pobol fregus y gaeaf hwn, wedi’i ariannu gan ‘Dreth Robin Hood’ untro ar gwmnïau nwy ac olew sy’n gwneud elw mawr.

“Yn y tymor hir, mae’n rhaid i’r weinyddiaeth Llafur-Plaid Cymru yn y Senedd ehangu eu rhaglen inswleiddio, gyda chefnogaeth i wella inswleiddio aelwydydd sydd ei angen fwyaf.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu pob un o’u targedau lleihau tlodi tanwydd ers 2010 – gallwn ni’n syml ddim gadael y mater hwn heb sylw ddim mwy.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu aelwydydd.

“Rydyn ni’n gwybod bod aelwydydd yn wynebu pwysau ariannol o ganlyniad i gostau ynni cynyddol a thoriadau i gymorth lles ac yn parhau i annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried ehangu’r cynlluniau cymorth sydd ar gael i roi cymorth pellach ar unwaith i deuluoedd sydd dan bwysau,” meddai.

“Rydyn ni hefyd wedi lansio Cronfa Cymorth Aelwydydd gwerth £51m, sy’n cynnwys y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf gwerth £38m, i helpu aelwydydd incwm isel i gadw’n gynnes y gaeaf hwn.

“Yn ogystal, rydyn ni wedi darparu cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim a diduedd i fwy na 160,000 o aelwydydd ers lansio’r Rhaglen Cartrefi Cynnes yn 2010 ac wedi helpu mwy na 67,000 o aelwydydd gyda mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref.

“Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cymorth i bobl sy’n profi caledi ariannol eithafol drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol.”