Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Gâr a fu farw dros y penwythnos.

Roedd y Cynghorydd Mair Stephens yn arwain y Grŵp Annibynnol o gynghorwyr sir, ac roedd hi’n ddirprwy arweinydd ar y Cyngor ers saith mlynedd.

Bu farw ddydd Sul, Ionawr 9, yn dilyn brwydr yn erbyn salwch.

Yn ogystal â gwasanaethu’r Cyngor Sir, bu’n aelod o’r Cyngor Cymuned yn Llandyfaelog ers dros 40 mlynedd, ac roedd hi hefyd yn Gadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru.

Yn y cyfnod hwnnw, roedd hi’n allweddol wrth ffurfio Un Llais Cymru, corff i ddwyn ynghyd yr holl sefydliadau oedd yn cynrychioli cynghorau tref a chymuned yng Nghymru.

Bu hefyd yn ymgyrchu’n gryf dros gefnogi’r rhai mewn angen, a gwasanaethodd ar Gyngor Defnyddwyr Cymru ac ar Fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn ogystal ag ysgogi Apêl Teganau Nadolig y sir.

Roedd hi hefyd yn aelod brwd o Sefydliad y Merched ac yn drefnydd i’r mudiad yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â chadeirydd ar y Pwyllgor Ffederasiynau yng Nghymru.

‘Trylwyr a chydwybodol’

Wrth arwain y teyrngedau, dywedodd Emlyn Dole, arweinydd y Cyngor Sir, y byddai colled fawr ar ôl y Cynghorydd Mair Stephens.

“Roedd y Mair roeddem i gyd yn ei hadnabod ac yn ei gwerthfawrogi yn ddiwyd, yn drylwyr, ac yn rhoi sylw anhygoel i bob manylyn,” meddai.

“Roedd Mair yn rhoi popeth bob amser, boed hynny yn ei gwaith fel Cynghorydd dros Lanismel, ei gwaith gwirfoddol, neu yn wir ei bywyd teuluol.

“Mae wedi bod yn Gynghorydd trylwyr a chydwybodol dros Lanismel ers blynyddoedd lawer, ac wedi gwasanaethu fel aelod o’r Cabinet ar gyfer sawl gweinyddiaeth, gan ddod â’r un ymrwymiad hwnnw i waith caled i’w gwahanol rolau yn y Cabinet.

“Mae wedi gwasanaethu fel dirprwy abl i mi dros y saith mlynedd diwethaf, ac roedd yn gwbl ymroddedig a chefnogol yn y rôl honno, fel yr oedd hi fel Arweinydd y Grŵp Annibynnol.”

‘Atgofion melys iawn’

“Byddaf i’n bersonol a’r tîm cyfan yn gweld eisiau Mair yn fawr iawn,” meddai Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Bydd gyda ni atgofion melys iawn o weithio gyda Mair, ac ar ran yr holl swyddogion a weithiodd yn agos gyda Mair, rydym yn cydymdeimlo o waelod calon â’i theulu, ac yn gobeithio bydd ein geiriau yn ffordd fach o’u cysuro a’u cefnogi ar adeg mor drist.”

Mae’r baneri y tu allan i adeiladau Cyngor Sir Gâr wedi cael eu gostwng i hanner y mast er cof am Mair Stephens.