Mae ap canlyn sydd wedi cael ei ddatblygu ar gyfer Mwslimiaid yn cael ei gyhuddo yn yr Uchel Lys o fod yn rhy debyg i ap y cwmni Match.com.

Match LLC sy’n berchen ar y wefan ac ap Tinder, ac mae’r cwmni’n dwyn achos yn erbyn Muzmatch a’i sylfaenydd Shahzad Younas.

Mae Muzmatch yn disgrifio’i hun fel “y gymuned fwyaf yn y byd ar gyfer Mwslimiaid sengl”, ond mae’n cael ei gyhuddo o fanteisio ar lwyddiant cwmnïau eraill wrth geisio tyfu.

Mae Muzmatch a Shahzad Younas yn amau’r honiadau.

Yn ôl cyfreithiwr ar ran Match, mae’r cwmni’n un o’r gwefannau canlyn enwocaf yn y byd, ac mae’n dal record byd am fod y gwasanaeth canlyn ar-lein mwyaf adeg lansio Muzmatch yn 2011.

Mae’n dadlau bod perchennog Muzmatch wedi ceisio manteisio ar lwyddiant y cwmni, a bod perygl i gwmseriaid ddrysu rhwng y ddau, yn enwedig wrth gopïo brandio Match.com hefyd.

Mae’n dweud bod y cwmni eisoes wedi cyfaddef iddyn nhw ddynwared brandio Tinder drwy ddisgrifio’r ap fel “Tinder Mwslimaidd”.

Ond mae cyfreithwyr ar ran Muzmatch a Shahzad Younas yn dweud nad oes tystiolaeth o unrhyw ddryswch.

Clywodd y llys fod Match wedi gwneud pedwar cynnig i gaffael Muzmatch, ond methodd eu cynigion.

Mae disgwyl i’r achos ddod i ben fory (dydd Mawrth, Ionawr 17), ond does dim disgwyl dyfarniad am y tro.