Mae Jenny Randerson, cyn-Aelod Cynulliad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Ganol Caerdydd, wedi lambastio Bil yr Heddlu a’r Ceidwadwyr a’u cyhuddo o fod yn “beryglus a didostur”.

Bydd Tŷ’r Arglwyddi, a fydd yn pleidleisio ar y Bil heno (nos Lun, Ionawr 17), yn ystyried nifer o welliannau i’r Bil cyn iddo fynd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin.

Byddai’r Bil 300 tudalen yn gweld pwerau yn cael eu rhoi i’r Swyddfa Gartref i gyfyngu ar yr hawl i brotestio, gan roi pwerau newydd i’r heddlu amharu ar brotestiadau a gorymdeithiau, a’i gwneud yn haws cosbi trefnwyr a chyfranogwyr a chynyddu dedfrydau carchar ar eu cyfer.

“Mae’r deddfau Ceidwadol newydd hyn i fynd i’r afael â phrotestiadau yn beryglus ac yn ddidrugaredd,” meddai’r Farwnes Randerson.

“Mae’r hawl i brotestio’n heddychlon yn hawl ddynol sylfaenol.

“Mae wastad wedi bod yn rhan hanfodol o’n cymdeithas ddemocrataidd.

“Mae’r cyfreithiau newydd hyn yn rhan o ymdrechion gwrth-ddemocrataidd y Llywodraeth Geidwadol i dawelu unrhyw wrthwynebiad i’w pholisïau.

“Nid oes lle i’r math hwn o ddeddfwriaeth mewn democratiaeth aeddfed.

“Heno bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda phleidiau eraill i gael gwared ar adrannau awdurdodol y bil hwn.

“Mae’r hawl i brotestio nid yn unig yn ymwneud â’r protestiadau mawr a welwch ar eich teledu, ond hefyd eich hawl i brotestio yn erbyn cau eich ysgol neu’ch uned Anafiadau ac Argyfyngau lleol.

“Mae’n hanfodol i bob un ohonom ni i gyd waeth ble rydych chi ar y sbectrwm gwleidyddol.

“Rhaid i’r Ceidwadwyr atal y Bil hwn, mae’r ymosodiad ar ddeddfau protestio yn ymosodiad ar ein rhyddid.”