Roedd grŵp o gogyddion y dyfodol ymysg bron i 500 o bobol sydd wedi cymryd rhan mewn prosiect ymchwil sy’n casglu adborth cwsmeriaid ar Gig Oen Cymru.
Ymunodd yr ugain myfyriwr o Goleg Cambria â 480 o gwsmeriaid a flasodd ac a farciodd gyfanswm o 3,360 sampl o Gig Oen Cymru.
Bydd y 480 o gwsmeriaid yn ychwanegu at y sampl o 2,000 cwsmer yn ystod y prosiect sy’n cael ei redeg gan Hybu Cig Cymru (HCC).
Mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru HCC yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch sydd, dros gyfnod o bum mlynedd, yn cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Mae’r prosiect yn ceisio sicrhau bod Cig Oen Cymru yn cadw ei enw da ledled y byd trwy astudio hoffterau defnyddwyr a thrwy ddadansoddiad gwyddonol o amrywiaeth o samplau cig oen.
“Roedd yn ddigwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig i’r myfyrwyr newydd gymryd rhan ynddi, ac yn gyflwyniad anhygoel i gynnyrch lleol o Gymru,” meddai Paul Smith, a ddaeth gyda’r criw o fyfyrwyr.
‘Gwella’r profiad o fwyta Cig Oen Cymru’
Gyda’r paneli blasu ar gyfer y treial hwn wedi’u cwblhau, bydd y data yn cael ei ddadansoddi ac mi fydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i sefydlu asesiad o amrywiad ansawdd cig a fydd ar gael i’r gadwyn gyflenwi ynghyd ag adroddiad llawn o’r canlyniadau ddiwedd y gwanwyn.
“Bydd yr asesiad yn helpu hysbysu’r gadwyn gyflewni o’r fferm i’r plât, ac yn helpu i ddeall dewis cwsmeriaid o ran blas a gwaead ac yn gwella’r profiad o fwyta Cig Oen Cymru i’r cwsmer modern,” meddai John Richards, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Chydberthynas HCC.
“Hyd yn hyn, mae’r paneli blasu wedi cael eu cynnal mewn dinasoedd ar draws y DU gan gynnwys Caer, Reading a Chaerdydd.
“Tra mae prif nod y paneli yw casglu adborth gwerthfawr, mae hefyd yn cynnig cyfle pwysig i dynnu sylw at fuddion maethol o fwyta cig oen i gwsmeriaid.”