Mae Downing Street wedi gwadu honiadau gan Dominic Cummings bod Boris Johnson wedi cael gwybod o flaen llaw bod staff yn cynnal parti yng ngardd Rhif 10 ynghanol y cyfnod clo cyntaf.
Mae cyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn barod i “dyngu llw” bod Boris Johnson wedi dweud celwydd pan ddywedodd wrth Aelodau Seneddol nad oedd yn gwybod o flaen llaw am y digwyddiad ar 20 Mai 2020.
Yn Nhŷ’r Cyffredin wythnos ddiwethaf, roedd Boris Johnson wedi cyfaddef treulio 25 munud yn y parti gan ddweud ei fod yn credu ei fod yn ddigwyddiad gwaith.
Ond yn ôl Dominic Cummings roedd e ac uwch swyddog arall wedi herio Martin Reynolds, prif ysgrifennydd preifat y Prif Weinidog oedd wedi anfon gwahoddiadau i tua 100 o staff, yn gofyn a oedd y digwyddiad yn cydymffurfio a’r rheolau.
Dywedodd Dominic Cummings bod Martin Reynolds wedi gwirio hyn gyda Boris Johnson a’i fod e wedi dweud y dylai’r parti gael ei gynnal. Mae Dominic Cummings yn honni bod y Prif Weinidog wedi wfftio ei wrthwynebiad i’r parti.
Wrth ymateb i’r honiadau dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Nid yw’n wir fod y Prif Weinidog wedi cael rhybudd am y digwyddiad o flaen llaw,” gan ychwanegu y bydd yn gwneud datganiad pellach pan fydd Sue Gray, y gwas sifil sy’n ymchwilio i bartïon yn Whitehall yn ystod y cyfnod clo, wedi cwblhau ei hymchwiliad.
Fe fydd yr honiadau yn ychwanegu’r pwysau ar Boris Johnson sy’n wynebu galwadau i ymddiswyddo gan rai ASau Ceidwadol.
Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur Angela Rayner wedi galw ar Boris Johnson i gamu o’i swydd.