Mae swyddogion Heddlu’r De wedi cael pwerau ychwanegol arbennig i stopio a chwilio pobl mewn rhai ardaloedd yng Nghaerdydd.

Dywed yr heddlu bod y camau hyn yn dilyn digwyddiadau treisgar neu lle mae trais wedi cael ei fygwth.

Fe ddaeth y rhybudd i rym am 4.20pm ddydd Llun (17 Ionawr) ac fe fydd yn parhau mewn grym tan 4.20pm heddiw (Dydd Mawrth, 18 Ionawr).

Mae’r pwerau’n galluogi’r heddlu i stopio a chwilio cerddwyr a’u harchwilio am arfau yn eu meddiant, ynghyd a stopio a chwilio unrhyw gerbyd, gyrrwr a theithwyr am arfau.

Dywedodd Heddlu’r De: “Nod Adran 60 yw atal trais difrifol, dod o hyd i offer peryglus neu ddal pobl sy’n cario arfau. Mae yna bryder gwirioneddol y gallai’r mater hwn waethygu.”

Fe fydd presenoldeb yr heddlu yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd i’r cymunedau hynny, meddai’r heddlu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau gysylltu’r heddlu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau ar 08090 555111.