Mae Tŷ’r Arglwyddi wedi pleidleisio yn erbyn nifer o fesurau Llywodraeth Prydain i geisio mynd i’r afael a rhai mathau o brotestiadau.

Roedd yr Arglwyddi wedi gwrthod nifer o fesurau dadleuol gafodd eu cynnig gan weinidogion mewn ymateb i brotestiadau amgylcheddol gan Insulate Britain ac eraill, oedd wedi amharu ar drafnidiaeth a gwasanaethau eraill.

Mae hyn yn golygu y bydd y mesur yn mynd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin ac yn dychwelyd i Dy’r Arglwyddi nes eu bod yn dod i gytundeb.

Roedd yr Arglwyddi nid yn unig yn feirniadol o’r mesurau ond hefyd y modd roedden nhw wedi cael eu cyflwyno mor hwyr, ar ôl i’r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd fynd drwy Dŷ’r Cyffredin.

Yn gynharach, roedd yr Arglwyddi hefyd wedi trechu cynlluniau eraill oedd yn cynnwys pwerau i osod amodau ar brotestiadau oedd yn cael eu hystyried yn rhy swnllyd.

Gan bwysleisio’r angen am y mesurau protest, dadleuodd gweinidog y Swyddfa Gartref, y Farwnes Williams o Trafford, eu bod yn “hanfodol bwysig o ran amddiffyn y wlad rhag y tactegau aflonyddgar iawn sy’n cael eu defnyddio gan nifer fach o bobol”.

Meddai: “Mae’r hawliau i ryddid barn a chynulliad yn gonglfaen i’n democratiaeth ac fe fydd y Llywodraeth hon yn eu hamddiffyn.

“Ond rhaid i Lywodraeth gyfrifol hefyd amddiffyn hawliau a rhyddid y mwyafrif sy’n parchu’r gyfraith.”

Ond roedd aelod meinciau blaen Llafur, yr Arglwydd Rosser wedi tynnu sylw at y “pwerau ysgubol, arwyddocaol a dadleuol pellach” nad oedd Tŷ’r Cyffredin wedi’u hystyried a’i fod yn “ffordd warthus i ddeddfu”.

Dywedodd: “Ni allwn gefnogi unrhyw un o’r pwerau eang munud olaf, sydd wedi cael eu rhuthro… ac eithrio cymeradwyo’r dedfrydau llymach am rwystro traffyrdd a phrif ffyrdd yn fwriadol.”