Mae cyfradd ddiweithdra Cymru yn parhau i ostwng, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Roedd 51,000 yn ddi-waith yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Tachwedd y llynedd, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sef 3.4%. Mae hyn yn is na chyfradd weddill y Deyrnas Unedig sy’n 4.1%.
Yn ôl yr ONS roedd y farchnad waith wedi cryfhau fis diwethaf er gwaetha’r cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron sydd wedi arwain at gyfyngiadau pellach.
Roedd nifer y gweithwyr yn y DU oedd yn cael eu cyflogi wedi codi 184,000, neu 0.6% ym mis Rhagfyr i 29.5 miliwn.
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos yn y tri mis hyd at fis Tachwedd, roedd y gyfradd ddiweithdra wedi gostwng i 4.1% o 4.2% yn y chwarter blaenorol ac yn agos at y 4% a welwyd yn y chwarter cyn y pandemig.
Yn ôl y ffigurau, mae nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi bellach wedi codi 1.4%, neu 409,000, yn uwch na’r lefelau cyn Covid.
Serch hynny, mae effaith y cynnydd mewn prisiau ar gyllidebau aelwydydd yn golygu bod cyflogau wedi gostwng ym mis Tachwedd am y tro cyntaf ers mwy na blwyddyn.
Dywedodd Darren Morgan, cyfarwyddwr ystadegau economaidd yr ONS: “Parhaodd nifer y gweithwyr sy’n cael eu cyflogi i dyfu’n gryf ym mis Rhagfyr, gyda’r cyfanswm bellach ymhell uwchlaw’r lefelau cyn y pandemig.
“Mae’r ffigurau newydd yn dangos, yn y tri mis hyd at fis Tachwedd, bod y gyfradd ddiweithdra wedi disgyn yn ôl bron i’r hyn yr oedd cyn i Covid-19 daro, a bod y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael eu diswyddo’n ddiweddar wedi gostwng i’w lefel isaf ers i gofnodion ddechrau mwy na chwarter canrif yn ôl.
“Fodd bynnag, er bod swyddi gwag wedi cyrraedd uchafbwynt newydd yn chwarter olaf 2021, maen nhw bellach yn tyfu’n arafach nag yr oedden nhw yn yr haf y llynedd.”
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak fod y ffigyrau’n “brawf fod y farchnad swyddi’n ffynnu, gyda nifer y gweithwyr yn codi i’r lefelau uchaf erioed a hysbysiadau diswyddo ar eu lefelau isaf ers 2006 ym mis Rhagfyr”.