Gallai’r oedolion tlotaf gael eu gorfodi i wario mwy na hanner eu hincwm, ar ôl talu am eu cartrefi, ar filiau ynni cynyddol a allai “ddinistrio’r” teuluoedd tlotaf, yn ôl elusen.

Gallai teuluoedd incwm isel wario ar gyfartaledd 18% o’u hincwm ar ôl costau tai ar filiau ynni ar ôl mis Ebrill, yn ôl dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF).

Mae hyn yn codi i 54% ar gyfer aelwydydd gyda dim ond un oedolyn, a thua chwarter ar gyfer rhieni sengl a chyplau heb blant.

Mewn cymhariaeth, mae disgwyl i aelwydydd incwm-canolig wario ar gyfartaledd 6% o’u hincwm ar filiau ynni, yn ôl y dadansoddiad.

Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd y cap ar brisiau ynni yn codi ychydig o dan 50% o fis Ebrill ymlaen.

Dywedodd y Llywodraeth y byddai’n parhau i “edrych yn fanwl” ar ba fesurau pellach allai fod eu hangen i helpu gyda chostau ynni uchel.

“Cynnydd pryderus”

Mae’r JRF wedi rhyddhau’r ffigurau ochr yn ochr â’i adroddiad blynyddol ar dlodi’r DU, sydd, meddai, yn dangos “cynnydd pryderus” yn nifer y plant sy’n byw yn y tlodi gwaethaf.

Roedd tua 31% o blant yn byw mewn tlodi yn 2019-20, gan godi i bron i hanner y plant mewn teuluoedd un rhiant.

Roedd tua 1.8 miliwn o blant yn cael eu magu mewn tlodi sylweddol iawn – ar aelwydydd â 40% neu lai na’r incwm cyfartalog.

Mae hyn yn gynnydd o hanner miliwn o blant ers 2011-12.

Roedd un rhan o bump o blant yn byw mewn cartrefi ag incwm isel am o leiaf tair o’r pedair blynedd rhwng 2016-2019, gan godi i tua un o bob tri phlentyn mewn teuluoedd un rhiant.

Roedd y gyfradd tlodi plant ar gyfer plant mewn teuluoedd gyda thri neu fwy o blant bron ddwywaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer plant mewn teuluoedd un neu ddau o blant (47% o’i gymharu â 24%).

Dywedodd y JRF ei bod yn ymddangos mai “ychydig iawn o obaith” sydd i wrthdroi’r tueddiadau tlodi plant cynyddol diweddar, a hefyd tlodi cynyddol ymhlith pensiynwyr.

Yn gyffredinol, roedd 22% o bobl y DU yn byw mewn tlodi yn 2019-20 – 14.5 miliwn o bobl.

O’r rhain, roedd 8.1 miliwn yn oedolion o oedran gweithio, 4.3 miliwn yn blant a 2.1 miliwn yn bensiynwyr.

Profodd mwy na miliwn o aelwydydd (yn cynnwys 2.4 miliwn o bobl) amddifadedd yn 2019 – cynnydd o 35% mewn dwy flynedd. Dyma’r math mwyaf difrifol o dlodi.

Dywedodd JRF y bydd gan aelwydydd tlotach lai o amddiffyniad yn erbyn costau cynyddol neu dreuliau annisgwyl gan eu bod yn llai tebygol o fod â chynilion.

Mae’n galw ar y Llywodraeth i helpu’r cartrefi tlotaf gyda thaliadau brys wedi’u targedu, ac i gryfhau’r system nawdd cymdeithasol “druenus o annigonol” sy’n achosi “caledi y gellir ei osgoi”.

“Cywilydd”

Dywedodd Katie Schmuecker, dirprwy gyfarwyddwr polisi a phartneriaethau JRF: “Ni ddylai unrhyw blentyndod gael ei ddiffinio gan frwydr ddyddiol i fforddio’r pethau sylfaenol. Ond y gwir amdani yw na fydd llawer o blant sy’n cael eu magu heddiw wedi gwybod dim byd arall.

“Dylai’r ffaith bod mwy o blant mewn tlodi ac yn mynd yn ddyfnach i dlodi godi cywilydd arnom ni i gyd.

“Bydd prisiau ynni cynyddol yn effeithio ar bob un ohonom, ond mae ein dadansoddiad yn dangos bod ganddynt y potensial i ddinistrio cyllidebau teuluoedd ar yr incwm isaf.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Rydym yn cydnabod y pwysau y mae pobl yn ei wynebu ar eu biliau cartref, a dyna pam rydym wedi cymryd camau pendant i’w cefnogi.

“Mae’r cap ar brisiau ynni wedi bod yn diogelu tua 15 miliwn o gartrefi rhag prisiau nwy uchel yn fyd-eang. Rydym hefyd yn cefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed ac ar incwm isel gyda chost biliau tanwydd drwy gynlluniau fel y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a’n Cronfa Cymorth Cartrefi gwerth £500 miliwn.

“Mae teuluoedd sy’n gweithio ar Gredyd Cynhwysol eisoes yn gweld mwy o arian yn eu pocedi, gyda chyfartaledd o £1,000 yn fwy’r flwyddyn, ac rydym yn cynyddu’r cyflog byw eto ym mis Ebrill.”