Dylai darlledu gael ei ddatganoli i Gymru, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Daw hyn ar ôl i Nadine Dorries, Ysgrifennydd Gwladol Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan, gyhoeddi y bydd ffi drwydded y BBC yn cael ei rhewi am ddwy flynedd.
Mae hyn yn gyfystyr â thoriad difrifol mewn termau real yng nghyllid y Gorfforaeth.
Fe wnaeth Nadine Dorries hefyd gyhoeddi £7.5m yn ychwanegol bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf i S4C – sy’n gyfystyr â chynnydd o 9% yng nghyllid S4C, ar ôl pum mlynedd o rewi’r cyllid.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae S4C wedi “colli ei annibyniaeth” yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’r ffordd i ddatrys hyn, yn ogystal â’r bygythiad newydd mae rhewi ffi’r drwydded yn ei gynrychioli, yw datganoli darlledu.
“Mae S4C yn derbyn 80% o’i arian trwy’r ffi drwydded eisoes a dros y blynyddoedd diweddar mae S4C wedi colli ei annibyniaeth,” meddai Elfed Wyn ap Elwyn, Cadeirydd Grŵp Digidol y Gymdeithas.
“Felly beth fyddai’n digwydd petai’r BBC yn ariannu S4C yn llwyr? A beth am ddyfodol S4C os bydd y ffi drwydded yn cael ei diddymu yn llwyr o 2027?
“Rydyn ni wedi galw ers blynyddoedd am ddatganoli cyfrifoldeb a chyllideb ar gyfer darlledu i Lywodraeth Cymru.
“Byddai modd i’r Llywodraeth osod fformiwla ariannol statudol a fyddai’n cynyddu yn unol â chwyddiant gan roi sicrwydd ariannol hirdymor i S4C.
“Byddai hynny’n galluogi S4C i ddatblygu.
“Ac yn fwy na hynny gallai’r Llywodraeth ddatblygu ac ehangu’r ddarpariaeth bresennol ym maes teledu, radio a’r cyfryngau digidol fel bod mwy o sianel radio a theledu, ac wrth i ni fyw ein bywydau yn fwyfwy ar-lein, bod y Gymraeg yn weledol ar y cyfryngau torfol.”