Mae cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch cyllid i’r BBC ac S4C yn “bwrw amheuaeth ar fywiogrwydd darlledu cyhoeddus Cymru yn y dyfodol”, yn ol Ben Lake, llefarydd diwylliant, cyfryngau a chwaraeon Plaid Cymru yn San Steffan.
Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Nadine Dorries, y bydd ffi drwydded y BBC yn cael ei rhewi am ddwy flynedd, sy’n cynrychioli toriad difrifol mewn termau real yng nghyllid y Gorfforaeth.
Cyhoeddodd hefyd £7.5m yn ychwanegol o 2022 ar gyfer gwasanaethau digidol S4C.
Nododd Ben Lake yn Nhŷ’r Cyffredin fod “y Gorfforaeth yn darparu tua £20m o raglenni S4C yn flynyddol” yn ogystal ag allbwn radio a gwasanaethau digidol, sy’n golygu y bydd cyfraniad y BBC i ddarlledu cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg yn lleihau.”
Dywedodd fod Nadine Dorries “wedi methu â mynd i’r afael yn llwyr” â’i bwynt yn Nhŷ’r Cyffredin.
Ychwanegodd aelod seneddol Ceredigion mai’r unig ffordd o sicrhau “tirwedd cyfryngau iach” yng Nghymru yw “datganoli darlledu i’r Senedd cyn gynted â phosib”.
“Braf oedd clywed yr Ysgrifennydd Gwladol yn honni ei bod yn cydnabod pwysigrwydd darlledu Cymraeg, ond aeth ymlaen wedyn i gyhoeddi toriad mewn termau real i setliad y BBC, setliad wrth gwrs sy’n darparu tua £20m o raglenni S4C yn flynyddol, yn ogystal â gwasanaethau Cymraeg ar Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw,” meddai.
“A allai’r Ysgrifennydd Gwladol felly esbonio sut na fydd toriad mewn termau real i setliad y BBC yn gweld gostyngiad yn ei gyfraniad pwysig i wasanaethau Cymraeg?”
Yn ei hymateb, ailadroddodd Nadine Dorries y bydd S4C yn gweld cynnydd mewn cyllid ac nad oedd yn mynd i’r afael â phwynt Ben Lake.
‘Canlyniadau difrifol i ddarlledu cyhoeddus cymraeg’
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Ben Lake fod “y cyhoeddiad heddiw yn bwrw amheuaeth ar fywiogrwydd darlledu cyhoeddus Cymru yn y dyfodol”.
“Peidiwch â chamddeall – bydd y toriad mewn termau real i setliad y BBC yn arwain at ganlyniadau difrifol i ddarlledu cyhoeddus cymraeg, yn ogystal â newyddion a rhaglennu Cymraeg Saesneg,” meddai.
“Methodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn llwyr â mynd i’r afael â’r pwynt hwn yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
“Mae’n anochel y bydd y toriad mewn termau real i setliad cyffredinol y BBC yn cael effaith ar y rhaglennu y mae’n ei ddarparu i S4C, ac yn llesteirio ei allu i ariannu gwasanaethau pwysig fel Radio Cymru.
“Ni all cynnydd yn y cyllid ar gyfer allbwn digidol S4C wrthbwyso’r toriad hwnnw.
“Mae’n gliriach nag erioed, os ydym am gael tirwedd cyfryngau iach yng Nghymru, mai’r unig ffordd ymlaen yw datganoli darlledu i’r Senedd cyn gynted â phosibl.”