Bydd dadl ar ddyfodol Cymru yn cael ei chynnal yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 18).
Dydy’r Uwch Bwyllgor Cymreig ddim wedi cyfarfod ers 2018, ond bydd cryfhau’r Undeb ar yr agenda wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fwriadu ‘lefelu i fyny’, cyflwyno bargen dwf ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, a darparu miliynau o bunnoedd o gyllid Covid-19.
Mae 40 aelod seneddol Cymru a phum aelod arall yn aelodau’r Uwch Bwyllgor Cymreig, ac maen nhw’n cynnal dadleuon ynghylch materion sy’n berthnasol i Gymru.
Cafodd ei sefydlu yn 1960 i ystyried effaith polisïau a deddfwriaeth ar Gymru, ac mae’r pwyllgor wedi cynnal ambell ddadl yng Nghymru yn y gorffennol, gan gynnwys Cwmbrân yn 2001 a Wrecsam ddegawd yn ddiweddarach.
Y ddadl
Bydd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn agor y ddadl a David TC Davies, gweinidog yn Swyddfa Cymru, fydd yn ei chau.
Geraint Davies, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, fydd yn y gadair.
Yn ôl Simon Hart, mae e eisiau manteisio ar y sesiwn i dynnu sylw at gymunedau sydd ar eu colled, a datblygu sector adnewyddadwy Cymru lle mae modd cydweithio er lles pobol Cymru.
“Drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ceisio cadw pobol ledled y Deyrnas Unedig yn ddiogel, a chadw’r difrod economaidd sydd wedi’i achosi gan y pandemig i’r lefel isaf posib,” meddai.
“Dydy’r manteision i Gymru o fod yn rhan o Undeb lwyddiannus a llewyrchus erioed wedi bod yn gliriach, gyda brechlynnau Covid-19 wedi’u caffael a’u darparu i’r Deyrnas Unedig gyfan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn gweithio ar reng flaen gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a chefnogaeth ariannol enfawr ledled y Deyrnas Unedig i gadw busnesau i fynd ac i gadw pobol mewn swyddi.”
Bydd y ddadl yn cael ei darlledu ar Parliament TV o 9.45yb.