Mae Vaughan Gething yn dweud bod polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gadael Cymru â “llai o lais tros lai o arian”.

Gwnaeth Ysgrifennydd Economi Cymru ei sylwadau yn ystod cynhadledd i’r wasg ynghylch y pandemig heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 18).

“Rydyn ni’n parhau i wynebu nifer o heriau economaidd, yn enwedig yng ngoleuni effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ac absenoldeb cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer disodli arian yr Undeb Ewropeaidd a lleihau anghydraddoldebau ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dydy pobol Cymru ddim wedi darparu mandad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gipio arian a phenderfyniadau allan o Gymru.

“Bydd sicrwydd ariannol ac awtonomiaeth yn ein galluogi ni i gefnogi ailadeiladu ein heconomi Gymreig, wedi’i theilwra ar gyfer anghenion Cymru.

“Yn dilyn sawl blwyddyn o ymgysylltu, rydyn ni wedi cyhoeddi ein cynlluniau gyda phartneriaid ynghylch sut y gallwn ni wneud i hynny weithio.

“Mae’r dull y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gymryd yn fygythiad uniongyrchol i’r gwaith hwn.

“Ar hyn o bryd, mae’n gadael Cymru â llai o lais tros lai o arian.”