Mae hyfforddwr rygbi mewn ysgol wedi cael ei wahardd rhag dysgu ar ôl i banel disgyblu ddod i’r casgliad ei fod e wedi gofyn i ferched mor ifanc â 13 oed am “luniau noeth”.

Roedd Gavin Williams, 34, wedi’i gyflogi fel swyddog partneriaeth rygbi yn Ysgol Gymunedol Aberdâr am chwe blynedd.

Clywodd y panel ei fod e wedi anfon negeseuon at wyth o ferched ar gyfryngau cymdeithasol Instagram a Snapchat, gan wneud sylwadau rhywiol am eu cyrff a danfon lluniau ohono fe ei hun heb grys atyn nhw.

Gofynnodd i un ferch am “luniau o’i hwyneb hardd” a “rhai drwg o’i bronnau”, ac fe ofynnodd i ferch arall a oedd hi’n anfon lluniau noeth ohoni hi ei hun.

Dywedodd wrth un arall ei fod e’n tybio ei bod hi’n “ferch ddrwg”, a’i bod hi “ond yn mynd am fechgyn â phidyn mawr”.

Anfonodd e lun ohono fe ei hun yn gorwedd ar wely at un ferch, gan ddweud “Dylet ti fod yma”.

Clywodd y gwrandawiad ei fod e wedi mynd â chriw o ferched ar “daith ysgol” i draeth Aberafan heb ganiatâd a thro arall, aeth â merch at optegydd yn ystod y diwrnod ysgol cyn dweud celwydd wrth gydweithiwr mai ei chyfnither e oedd hi.

Tystiolaeth

Cafodd Gavin Williams ei arestio gan Heddlu’r De ar Dachwedd 23, 2019 ar amheuaeth o gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn, a daeth ei sylwadau rhywiol i’r amlwg wrth adolygu 200,000 o lawrlwythiadau i sawl ffôn symudol.

Dywedodd nifer o’r merched eu bod nhw’n teimlo’n “rhyfedd” neu’n “frawychus” ynghylch y negeseuon a’u bod nhw’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus.

Ar ôl dweud wrth un o’r merched fod athro arall yn yr ysgol wedi gwneud sylwadau rhywiol amdani, cyfaddefodd Gavin Williams wrth yr heddlu ei fod e wedi dweud celwydd gan gyfeirio at y neges fel “tynnu coes”.

Pan gafodd ei holi yn ystod ymchwiliad yr ysgol a oedd y daith i’r traeth yn briodol, dywedodd ei bod hi “yn ôl llythyren y ddeddf yn yr ysgol” ac nad oedd yn “niweidiol”, er bod ei “fwriad yn iawn” ac mai hwn oedd “y peth anghywir i’w wneud”.

Daeth y panel i’r casgliad fod y negeseuon anfonodd e o natur rywiol ac at ei ddibenion ei hun, ond nad oedd digon o dystiolaeth ei fod yn bwriadu cael perthynas rywiol â’r un o’r merched.

Cafodd ei wahardd rhag dysgu “er mwyn gwarchod dysgwyr, adfer hyder y cyhoedd yn y proffesiwn addysg ac i ddatgan a chynnal safonau ymddygiad proffesiynol priodol”.

Mae ei enw wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr ddysgu am gyfnod amhenodol, ac mae’n bosib na fydd e’n cael gweithio mewn ysgol yng Nghymru eto.