Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn “or-optimistaidd” gyda’u targedau swyddi gwyrdd.

Mae dadansoddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) yn honni y byddai’r trawsnewid i fod yn wlad sero-net yn cael effeithiau tebyg ar ddiwydiant i’r un a gafodd cau pyllau glo o’r ugeinfed ganrif hyd at heddiw.

Gallai hynny olygu bod llawer o bobol yn ddi-waith, a bod niferoedd uchel o’r boblogaeth yn symud allan o Gymru i chwilio am sicrwydd economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn wlad sero-net erbyn 2050, sy’n golygu y bydd angen trawsnewid a rhoi cymorth i sectorau, gan gynnwys ynni a thrafnidiaeth, i gael eu datgarboneiddio.

Yn rhan o hynny, bydd cannoedd o swyddi gwyrdd yn cael eu cefnogi, ond mae’r ymchwil gan y Sefydliad Materion Cymreig yn honni bod cymhlethdodau ynghlwm â hynny.

Ailhyfforddi gweithwyr

Fe ddatgelodd yr ymchwil fod “diffyg dealltwriaeth” ynglŷn ag effaith strategaethau sero-net ar y diwydiannau nwy a modur, gan y bydd gweithwyr y sectorau hynny yn ei chael hi’n anodd addasu i ofynion swyddi gwyrdd.

Er mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n arwain ar y broses o gyrraedd sefyllfa garbon niwtral, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gefnogi’r broses o ailhyfforddi gweithwyr, yn ôl yr adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig.

Mae’r felin drafod, felly, yn galw ar y llywodraeth ym Mae Caerdydd i roi mwy o bwerau i gyrff rhanbarthol er mwyn “adlewyrchu cyfleoedd gwahanol mewn rhannau gwahanol o Gymru”.

Byddai angen cynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer addysg alwedigaethol ac addysg ôl-19 yng Nghymru i roi mwy o sicrwydd y bydd swyddi gwyrdd yn cael eu llenwi yng Nghymru.

Ymchwil ac arloesedd

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi perfformiad gwael Cymru yn y sectorau ymchwil ac arloesedd dros y blynyddoedd.

Gallai hynny leihau’r cyfleoedd economaidd sy’n deillio o’r trawsnewid i fod yn wlad sero-net, ac y byddai’n rhaid i Gymru ddibynnu ar fuddsoddiad o dramor.

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn argymell buddsoddi mwy o arian yn y sectorau hyn er mwyn eu cryfhau a’u tyfu.

Awdur yr adroddiad yw Dr Jack Watkins, sy’n arwain ar brosiect Economi Sylfaenol y Sefydliad Materion Cymreig.

“Mae ein canfyddiadau allweddol yn dangos mai ychydig iawn o unigolion a mudiadau sydd yn cyflawni eu llawn botensial wrth leihau allyriadau carbon,” meddai.

“Mae angen llawer mwy yng nghyd-destun sgiliau, ymchwil ac arloesedd, cefnogi busnesau a chymhelliad, ac mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy uchelgeisiol gyda’u pwerau datganoledig.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i’r adroddiad.