Bydd pob cystadleuydd sy’n mynd drwodd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni’n cael llwyfan.

Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y profiad o gystadlu ar brif lwyfan yr Urdd, bydd yna dri phafiliwn ar y maes yn Ninbych.

Ar hyn o bryd, mae miloedd o blant a phobol ifanc wrthi’n cystadlu mewn 220 Eisteddfod Cylch a Rhanbarth heb gynulleidfa, ac mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi cadarnhau na fydd y cystadleuwyr sy’n mynd drwodd o’r rhanbarthau’n gorfod cael rhagbrofion yn y Genedlaethol.

Daeth cadarnhad ym mis Rhagfyr hefyd fod yr Urdd yn derbyn dros £500,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn agor y drysau a chynnig mynediad am ddim i bawb ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant.

Am y tro cyntaf erioed, bydd gŵyl o fewn gŵyl yn cael ei chynnal ar faes yr Urdd.

Mae Gŵyl Triban yn gwahodd ei holl aelodau, cyn-aelodau a ffrindiau’r Urdd i gymryd rhan yn y dathlu yn rhad ac am ddim o Fehefin 2-4.

Bydd gwledd o fwyd a diod, cyfle i hel atgofion a pherfformiadau gan artistiaid megis Eden, Gwilym, Eädyth, Tara Bandito, a N’Famady Kouyaté yn rhan o’r ŵyl.

‘Cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg’

Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, ei fod e wrth ei fodd fod Maes yr Eisteddfod yn dychwelyd eleni am y tro cyntaf ers 2019.

“Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad blynyddol mor bwysig ac yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom wedi cael profiad ohono, boed hynny’n cymryd rhan mewn cystadlaethau neu’n ymweld â’r Maes pan mae wedi’i gynnal yn ein hardal ni,” meddai.

“Mae ymweld â’r Eisteddfod yn gyfle gwych i ddefnyddio’r Gymraeg, gyda gweithgareddau i bawb, p’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg hyderus, yn ddysgwr neu os oes gennych ddiddordeb yn yr iaith a’r diwylliant.

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r Urdd, ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, i wneud mynediad i’r Maes yn rhad ac am ddim eleni, i bawb ei fwynhau.”

‘Datblygiad arloesol’

Mae’r tocynnau sy’n cynnig mynediad am ddim i faes yr eisteddfod ar gael i’r cyhoedd nawr.

Dywed y Cynghorydd Hugh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fod hwn yn ddatblygiad “cyffrous yn hanes Eisteddfod yr Urdd ac yn gyfle gwych i drigolion lleol Sir Ddinbych a Chymru gyfan gael archebu tocynnau fydd yn cynnig mynediad at wledd o dalentau, celfyddyd a diwylliant ein plant a’n pobl ifanc”.

“Mae’r Cyngor, fel un o brif noddwyr y digwyddiad eleni, yn cydweithio’n agos gyda’r Urdd er mwyn rhoi trefniadau mewn lle i gael gŵyl i’w chofio,” meddai.

“Mae lleoliad yr ŵyl o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gynnig croeso twymgalon yn nyffryn clodwiw Clwyd ddiwedd Mai.”

‘Gŵyl i’w chofio’

Ychwanega Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau nad oes “dim dwywaith ein bod ni i gyd, boed yn gystadleuwyr, hyfforddwyr, cefnogwyr, stondinwyr neu’n wirfoddolwyr wedi hiraethu am yr Eisteddfod a’i hasbri”.

“Mae ein diolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr, beirniaid, hyfforddwyr a staff sydd wedi rhoi o’u hamser i sicrhau ein bod yn gallu llwyfannu Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth y gwanwyn hwn,” meddai.

“Heb os, bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, yng nghanol blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, yn ŵyl i’w chofio – ac mae pawb ynghlwm â pharatoadau’r Eisteddfod yn haeddu hynny.”