Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi datgelu’r llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og eleni.

Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ar raglen Heno heno (nos Iau, Mawrth 10), ac mae’n cynnwys straeon am ddirgelion, anturiaethau, a direidi, yn ogystal â golwg ffres ar hanesion a chymeriadau Cymru.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth i blant a phobol ifanc yng Nghymru, ac maen nhw’n gyfle i ddathlu ac anrhydeddu awduron a darlunwyr llyfrau plant.

Dros y blynyddoedd mae rhai o awduron a darlunwyr amlycaf Cymru, megis Manon Steffan Ros, Jac Jones, Caryl Lewis, a Gareth F. Williams, wedi ennill y gwobrau, ac Alun Horan, Morgan Dafydd, Sara Yassine, a Ceri Griffith fydd yn dewis yr enillwyr eleni.

Bydd enillwyr y categorïau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau, Mehefin 2 yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.

Rhestr Fer Cynradd

Gwil Garw a’r Carchar Crisial, Huw Aaron, Llyfrau Broga

Llyfr llawn doniolwch, digwyddiadau dychmygus, bwystfilod arbennig, a phrif gymeriad sydd rhywsut yn gallu goroesi pob trallod ac anhrefn.

Sara Mai a Lleidr y Neidr, Casia Wiliam, Y Lolfa

Enillodd y llyfr cyntaf yn y gyfres Wobr Tir na n-Og y llynedd, ac mae’r ail gyfrol yn cynnwys stori dditectif sy’n “helpu’r naratif, yn cadw’r darllenydd i droi’r tudalennau, ac yn gofyn i blant feddwl wrth iddynt drio dyfalu”.

Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts, Atebol

Stori lawn antur sy’n portreadu byd estron y Wyrcws.

Rhestr Fer Uwchradd

Hanes yn y Tir, Elin Jones, Gwasg Carreg Gwalch

Cyfrol hardd sy’n yn gwneud hanes cymhleth yn hygyrch i’r darllenydd.

Y Pump, gol. Elgan Rhys, Y Lolfa

Casgliad o straeon heriol ac arbrofol sy’n cydblethu i greu un cyfanwaith ardderchog.

Fi ac Aaron Ramsey, Manon Steffan Ros, Y Lolfa

Nofel gyfoes sy’n cyflwyno cymeriadau real o gig a gwaed sy’n taro tant gyda darllenwyr ifanc heddiw.

‘Diwydiant iach iawn’

Dywedodd Alun Horan, Cadeirydd y Panel Cymraeg, ei bod hi’n bleser ac yn fraint cadeirio’r panel a bod yr arlwy yn “arwydd pendant fod y diwydiant yn iach iawn”.

“Braf gweld nifer o enwau newydd a bod safon ysgrifennu a diwyg y teitlau gyrhaeddodd y rhestr fer yn ardderchog.

“Ymysg y teitlau roedd sawl llyfr hynod o wreiddiol sy’n mynd â llyfrau plant a phobl ifanc yn y Gymraeg i dir newydd cyffrous, gyda’r potensial o ddenu darllenwyr anfoddog ac anodd eu cyrraedd.”

‘Dathlu’r gorau’

Wrth longyfarch pawb sydd wedi cyfrannu at greu’r llyfrau ar y rhestrau byrion eleni, dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Nod y gwobrau hyn ydy dathlu’r gorau o blith llyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg ac mae’n bleser mawr gweld llyfrau mor arloesol a chyffrous yn cael eu hanrhydeddu.

“Rydw i’n hynod o falch nad ydw i’n wynebu’r cyfrifoldeb o ddewis enillwyr o’r detholiad campus yma!”

Bydd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og yn cael eu datgelu am 18:30 nos fory (dydd Gwener, Mawrth 11) ar y Radio Wales Arts Show, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen honno ar Mai 20.