Mae EP pedwar trac o gerddoriaeth sy’n ymddangos yng nghynhyrchiad llwyfan newydd Ynys Alys wedi cael ei ryddhau heddiw (dydd Mawrth, 11 Mawrth).
Y rapiwr Lemarl Freckleton, y gantores Casi Wyn a’r cynhyrchydd Alexander Comana oedd yn gyfrifol am gyfansoddi holl gerddoriaeth y cynhyrchiad llwyfan newydd sbon.
Dywed Lemarl bod y gerddoriaeth a’r ddrama yn “fetaffor perffaith o Gymru” ac mae’n cynrychioli’r holl “gymunedau amrywiol a lleisiau gwahanol” sydd yn y wlad.
Fe fydd Ynys Alys, sy’n cael ei chynhyrchu gan Gwmni Frân Wen, yn cael ei llwyfannu mewn theatrau ledled Cymru rhwng dydd Iau, Mawrth 17 a dydd Sadwrn, Ebrill 9.
Mae’r sioe yn dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth, ac mae’r cwmni theatr wedi cydweithio gyda phobol ifanc o bob rhan o Gymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Bydd Valmai Jones a Fflur Medi Owen, sy’n chwarae rhannau mam a merch, yn serennu yn y cynhyrchiad, yn ogystal â Becca Naiga, sy’n chwarae rhan Alys yn ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf ar lwyfan.
‘Ti methu ei roi mewn bocs’
Lemarl Freckleton, sy’n perfformio o dan yr enw Lemfreck, oedd un o’r artistiaid a gafodd ei enwi ar restr Ones to Watch BBC Introducing yn 2021.
“Mae Ynys Alys yn metaffor perffaith o Gymru oherwydd nid ydio’n ffitio mewn unrhyw genre,” meddai.
“Ti methu ei roi mewn bocs. Mae gennym ni lawer o gymunedau amrywiol a lleisiau gwahanol yng Nghymru – a dyma’r stori rydyn ni’n ei hadrodd.
“Yn gerddorol dyma’r peth anoddaf i mi ei wneud erioed, ond dw i wedi elwa gymaint.
“Nid jest i fi mae’r gerddoriaeth felly mae’n rhaid bod yna eglurder yn y ffordd dw i’n sgwennu’r lyrics.
“Mae’r broses yn bendant wedi fy ngwneud yn well cyfansoddwr.”
‘Ail-ddiffinio ein straeon’
Cafodd yr EP ei recordio yn stiwdios Sain yn Llandwrog ger Caernarfon, a’r pedwar trac sy’n ymddangos arni yw Rhywbeth Mwy, Left Behind, Ynys (Island Song), a Tawelwch (Outro).
Fe soniodd Casi Wyn, sy’n rhan o dîm creadigol y cynhyrchiad, fwy am y sioe, sy’n cael ei pherfformio gyntaf yng Nghanolfan Pontio Bangor wythnos nesaf.
“Mae’n ddathliad lliwgar o wahanol steiliau sy’n dod at ei gilydd, gan doddi i mewn i un cawr Cymreig sydd wedi magu traed, breichiau a chydwybod,” meddai Casi.
“Drwy ddod â rap, pop ac electro o wahanol gefndiroedd a diwylliannau at ei gilydd rydyn ni’n gallu ail-ddiffinio ein straeon a sut maen nhw’n cael eu hadrodd.
“Mae o’n gerddoriaeth fregus am yr hyn mae’n ei olygu i fodoli yng Nghymru fel person ifanc – ac yn bersonol mae o wedi bod yn daith hynod emosiynol.”
Y cynhyrchydd electroneg Alexander Comana oedd â’r dasg o blethu’r gwahanol arddulliau.
“Mae o wedi gwneud gwaith anhygoel yn uno’r genres ac maen nhw i gyd yn plethu mewn i un,” ychwanegodd Casi.
“Dyna sy’n dod â hwn yn wirioneddol fyw – pan ti’n stopio trio diffinio fo.”
Mae’r EP nawr ar gael ar y prif blatfformau ffrydio, o dan yr enw artist Ynys Alys.