Mae’r cerddor 28 oed o Gasnewydd yn rapio, canu a rhedeg ei label recordiau ei hun, ac yn athletwr sy’n gobeithio rhedeg dros ei wlad. Mae wedi bod yn cyflwyno Curadur, rhaglen bop ar S4C…

Sut fyddech chi’n disgrifio eich cerddoriaeth?

Fydda i’n gwrando ar lot o gerddoriaeth wahanol, a fyddwn i’n dweud bod fy ngherddoriaeth i yn pontio rap ac alt r’n’b. Dyna’r nod!

Ers faint ydach chi yn chwarae cerddoriaeth?

Wnes i gychwyn ar yr allweddellau yn eglwys fy nhad, cyn symud i’r dryms am fy mod yn meddwl fod o yn fwy cŵl!

A bob dydd Sadwrn fyswn i’n mynd i chwarae rygbi ac wedyn mynychu rhaglen gerddoriaeth sy’n adnabyddus yng Ngwent, a dyna lle wnes i ddysgu darllen cerddoriaeth glasurol ac ati.

Wnaethoch chi astudio cerdd yn coleg?

Na. Wnes i Lenyddiaeth Saesneg a’r Gyfraith ym Mhrifysgol Warwick, wedyn gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.

A beth yw eich gwaith erbyn hyn?

Rydw i yn Gyfarwyddwr Artistig yn creu cynnwys i hyrwyddo brandiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar y funud rydan ni yn paratoi ymgyrch i dynnu sylw at gystadleuaeth griced newydd o’r enw The Hundred.

Mae’r gwaith yn Llundain lle’r ydw i’n byw.

Sut brofiad oedd cyflwyno pennod o Curadur?

Yn syth bin, roeddwn i yn gwybod fy mod i eisiau rhoi platfform i gerddorion o Gymru sy’n creu cerddoriaeth sy’n hanu o bobol ddu [Music of black origin].

Er enghraifft, mae’r rapiwr Mace The Great ar y rhaglen, ac mae ganddo ddilyniant anferth yn Lloegr – mae o ar Radio 1Xtra drwy’r amser.

Ond does yna ddim digon o sylw iddo yng Nghymru.

Ac o’m safbwynt i, ges i sylw am fy ngherddoriaeth ymhell cyn i neb wybod pwy oeddwn i yng Nghymru, a doedd hynny ddim am nad oedden ni heb drïo [cael sylw].

Rwy’n cael yr argraff nad yw cerddoriaeth sy’n hanu o bobol ddu mor weladwy â genres eraill yng Nghymru, sy’n rhyfedd, achos os edrychwch chi ar Spotify, dyna’r genre mwya’ poblogaidd yng Nghymru.

Faint o her oedd cyflwyno ar deledu yn Gymraeg?

Mae’r cyflwyno yn very Wenglish!

Fues i i ysgol gynradd Gymraeg, ond wedyn fedrwn i ddim wir fforddio’r costau teithio i gyrraedd yr ysgol uwchradd Gymraeg.

Wedyn, yn yr ysgol uwchradd, fe wnes i smalio nad oeddwn yn medru siarad Cymraeg, er mwyn gallu sefyll arholiad [Cymraeg] ail iaith a chael gradd A!

Ond ers gadael ysgol, wnes i ddim siarad yr iaith – dim gair – am ddegawd.

Felly roedd cyflwyno’r rhaglen fel dechrau eto, ac mae’r profiad wedi tanio rhywbeth yndda i, a dw i’n annog fy hun a fy ffrindiau Cymreig i siarad mwy o Gymraeg.

A beth ydy hyn am yrfa athletaidd?!

Yn fachgen, roeddwn i’n caru chwaraeon ac yn un da am chwarae rygbi, ond ddim yn athletwr o fath yn y byd.

Wedyn, un diwrnod, pan oeddwn i yn 17 oed – ac mae hyn yn hollol wir! – roeddwn i’n medru rhedeg yn gyflym.

Wnaeth yr Athro Ymarfer Corff weld fi ar ddechrau’r tymor ysgol a gofyn: ‘Be fues di’n wneud dros yr Haf?!’

Fy amser gorau yn rhedeg 100m yw 10.6, a 21.03 ar gyfer y 200m.

Wnes i ennill y ras 200m ym Mhencampwriaeth Cymru yn 2019, ac rydw i’n gobeithio cynrychioli fy ngwlad yng Ngemau’r Gymanwlad [yn Birmingham y flwyddyn nesaf].

Beth yw eich atgof cyntaf?

Cael y Nintendo 64 ar fy mhen-blwydd, yn hollol annisgwyl. Diwrnod gorau fy mywyd!

Beth yw eich ofn mwyaf?

Unigrwydd.

Sut fyddwch chi’n cadw yn heini?

Hyfforddi chwe diwrnod yr wythnos, ac un diwrnod o orffwys.

Rydw i’n bwyta yn iach iawn drwy’r wythnos. Ond os ddaw nos Sadwrn, a dw i wir yn gweld eisiau pizza, wna i gael un.

Pwy fyddech chi’n ei wahodd i bryd bwyd ffantasi, a beth fyddai’r wledd?

Prince – does gan neb vibe y dyn yma! Mae’n siŵr mai ‘The Most Beautiful Girl In The World’ yw’r gân bertaf sydd erioed wedi cael ei sgrifennu.

Kanye West – rhaid gwthio’r ffiniau ym mhob agwedd o’ch bywyd, ac mae’r boi yna yn eu gwthio nhw ymlaen drwy’r amser.

Malcolm X – er mwyn dysgu a deall ganddo… a Chaka Khan ar gyfer y vibes. Mae hi hefyd yn wych!

I’w fwyta, pizza gyda selsig sbeisi arno!

Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?

Y gorau oedd y cyntaf, pan oeddwn i yn 15 oed… Emma Beddoes, ar y grisiau mewn parti, jesd fel roeddwn i’n gadael. Dannedd yn cnocio a phopeth!

Oes yna air yr ydach chi’n gorddefnyddio?

Gully.

Os ydw i’n dweud fod rhywbeth yn gully, mae o wir yn next level ac yn anhygoel!

Mae o yn air sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghasnewydd, ond yn deillio o Jamaican slang.

Oes ganddo chi hoff wisg ffansi?

Prince!

Roedd gen i’r flows, y siwt biws, y gwallt – noson orau fy mywyd!

Beth fu embaras mwya’ eich bywyd?

Methu cic o’r smotyn yn ffeinal Cwpan Gwent – y gic i ennill y gêm!

Roeddwn i yn 14 oed ar y pryd ac yn chwarae i’r ysgol yn erbyn academi Newport County.

Doeddwn i heb fethu’r un gic gosb drwy’r tymor, ond wnes i fethu honna, ac roedd o’n brifo!

Hoff wyliau?

Japan, 100%. Roedd y lle fel byd arall, culture shock anhygoel a phrydferth.

Hoff ddiod alcoholig?

Tennessee Whiskey a coke.

Hoff air?

Rydw i’n caru dweud ‘bendigedig’ drwy’r amser.

Sut le yw eich cartref?

Rydw i yn byw mewn fflat yn ne Llundain – rhwng Brixton a Peckham – gyda fy nghyfaill Sam.

Ac mae gen i gath o’r enw Luna – fe wnes i ei phrynu hi pan oeddwn i yn feddw a hithau yn gath fach.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Dw i yn amheus iawn o bobol sy’n hoffi olives.

Maen nhw’r pethau gwaethaf erioed – yr olives, nid y bobol!

Ewch i S4C/Clic i wylio Curadur

“Sioe sy’n her i’r Deyrnas Gyfunol”

Non Tudur

Roedd ‘Diwrnod Arall’ yn rhoi blas ar gynhyrchiad sydd ar waith gan yr artist pop Casi Wyn a chyfarwyddwr Cwmni’r Frân Wen, Gethin Evans