Mae Bardd Plant newydd Cymru am ddefnyddio alawon yn ogystal â geiriau i geisio tanio dychymyg ieuenctid y genedl.

Bydd Casi Wyn – cantores, cyfansoddwraig ac awdur o ardal Bangor – yn cymryd drosodd gan y Prifardd Gruffudd Owen, ac yn Fardd Plant Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

Dywed mai dathlu amrywiaeth Cymru a phontio cymunedau drwy hud barddoniaeth yw ei blaenoriaeth.