Mae tymor cynadleddau’r pleidiau gwleidyddol yn parhau a’r wythnos hon mae ffyddloniaid y blaid Geidwadol wedi teithio i Fanceinion.

Ond rhwng yr areithiau hirwyntog a’r cymeradwyo pypedaidd, mae yna sgyrsiau difyr i’w cael am Gymru yn y gynhadledd eleni.

Bu’r sylwebydd gwleidyddol, Guto Harri, yn cadeirio panel yn trafod rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig.