A hithau yn Ddiwrnod Anifeiliaid y Byd ddechrau’r wythnos, roedd y Loteri Genedlaethol yn amlygu rhai o’r elusennau anifeiliaid maen nhw yn cefnogi.

Draw yn Sir Benfro mae cwmni cymunedol ‘Cariad Pet Therapy’ yn anfon cŵn cariadus i gysuro pobl sy’n unig neu yn agored i niwed.