Mae yna hen drafod wedi bod ynghylch union ddiffiniad y gair ‘ffasgaeth’.

Mae rhai’n honni mai dim ond pan fo unben ar wladwriaeth yn arddel casgliad penodol o gredoau y gall gwir ffasgaeth fodoli. Crynswth y ddadl honno yw na all ffasgaeth fodoli heb ffasgydd penodol wrth y llyw, na all fodoli y tu allan i drefniant penodol o dan arweinydd penodol.