Rydym yn hen gyfarwydd â chyfresi drama S4C yn cael eu ffilmio’n Gymraeg a Saesneg ac mae un arall ar y ffordd yn fuan, trydedd gyfres Craith. Ond yn ddiweddar mae mwy a mwy o gyfresi ffeithiol ac adloniant y sianel hefyd wedi ymddangos ar sianeli eraill. S4C yn cydweithio gyda chwmnïau annibynnol i greu deunydd i ddarlledwyr eraill, yn addasu ac allforio’u cynnyrch.