Yn ôl y gyfraith, mae modd ymosod ar eich partner – a’i niweidio – a chael dim byd mwy na dirwy.

Fe fyddai dyn di-waith yn wynebu £80 o ddirwy, £34 o ordal a £85 ar gyfer costau Gwasanaeth Erlyn y Goron – sef cyfanswm o £199. Ac fe fyddai modd talu’r ddirwy dros gyfnod, trwy gynnig £10 y mis i’r llys.

Ar y llaw arall, mae modd i chi golli eich trwydded yrru am wneud 21 milltir yr awr (ychydig yn gynt na beic). I rai, gall hynny arwain at golli swydd. Ac, o golli swydd, colli cartref.