Doedd o ddim yn bell i gerdded adref. Ar hyd cwpl o strydoedd ac yna ar y palmant ar gwr y lôn am ryw dri chan llath, cyn troi wrth y garej ac i fyny’r stryd, troi i’r chwith, a chyrraedd adref. Roedd y siwrnai i gyd dan lygaid gwarcheidiol goleuadau’r stryd. Dim ond toc wedi deg oedd hi; roedd digon o geir yn pasio.

Dechreuodd Mared gerdded.