Mae’n anodd, anodd coelio y dyddiau hyn, â’r blaid Geidwadol yn rhagori ar fod y fersiwn waethaf ohoni ei hun, nad fel hyn oedd hi yng Nghymru erioed. Nid fi fydd yr unig un sy’n hiraethu, bron ag atgofion mwyn, am y blaid led-gymedrol Gymreig yna sydd wedi hen farw. Mae’n ddegawd ers i Nick Bourne golli’i sedd, ac mae hynny o Geidwadwyr cymedrol a oedd wedi gadael cyn cael eu gwthio (David Melding) neu wedi’u gwrthod gan eu plaid eu hunain (Suzy Davies) yn angof.
Dathlodd nifer ym mis Mai ddiflaniad y dde eithaf yn y Senedd, ond gydag 16 o seddi, y gwir ydi bod dros chwarter yr aelodau bellach yn llenwi’r bwlch hwnnw. Roedd y giwed Geidwadol gyrhaeddodd y Bae ond yn adlewyrchiad teilwng o gyflwr y Torïaid fel yr UKIP newydd – grŵp di-hid, di-otsh ac eithriadol o asgell dde sydd yno am eu siec ddiwedd mis mewn sefydliad y byddai’n well gan y rhan fwyaf ohonynt na fyddai’n bodoli.
Ar fwy nag un achlysur mae’r siambr wedi diferu â’u dirmyg. Chwarddent yn llon ar ddadl gan AoS Plaid Cymru, Luke Fletcher, yn trafod y bron i 50,000 o bobl yn ei ranbarth a fydd yn dioddef yn sgîl toriadau i Gredyd Cynhwysol. Edrychon nhw’n falch o’u hunain wrth i Mark Drakeford osod y bai am y diffyg gyrwyr HGV ar Brexit a’u llywodraeth faleisus nhw yn Llundain. Yn falch.
A dyna nhw yno bob wythnos: Janet Finch-Saunders a’i chrechwen benwag gyson, wyneb snichlyd o Brydeinllyd James Evans, Asghar yn smalio bod ei sedd hi’n fwy na’r modd i odro’r pwrs cyhoeddus y bu i’w theulu erioed, Kurtz â’i gilwenu oeraidd. Ac yna Darren Millar, y ffug efengyl, yn ymfalchïo’n ei basbort Gwyddelig a mwy byth yn y ffaith fod i hynny freintiau yr oedd o’n meddwl nad oedd y rhan fwyaf ohonom yn eu haeddu mwyach.
Ac yn gefn i bob un o’r rhain, mae eu staff drws cefn yn llawn mursennod o’r Centre for Welsh Studies, sef melin drafod masnach rydd, y mae’n anhysbys pwy sy’n ei ariannu, nad yw’n brin o unigolion sy’n casáu’r Gymraeg a datganoli.
Wyneb Paul Davies, y cyn-arweinydd, ddywed y cyfan. Mae o’n ceisio eistedd drwy’r cyfan efo mymryn o hunan-barch, hen wraig y Bala Ceidwadaeth gymedrol, yn edrych â chryn embaras am ymddygiad ei gyd-aelodau; ei rythu trist ar ei ddesg yn ildio’i feddyliau – “Sut y daeth hi at hyn?”
Nefoedd, mae hyd yn oed Andrew RT yn edrych fel rhywun gweddus a chymedrol yn y grŵp hwn o greaduriaid aflan.
Dw i ddim yn gwybod a oedd hi’n etholiadol gyfrwys wythnos ddiwethaf i Angela Rayner, Dirprwy Arweinydd y blaid Lafur Brydeinig, alw’r Ceidwadwyr yn “scum”. Ond nid oes angen i ni edrych yn bell iawn i ddeall pam, na medru cytuno chwaith.