Mae S4C wedi creu bwrsariaeth yn benodol ar gyfer helpu myfyriwr sy’n Ddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig.

Y gobaith yw “ceisio denu wynebau newydd i ymuno â’r sector gyfryngau yng Nghymru”.

Mae £9,000 ar gael i gefnogi un myfyriwr o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig i astudio ar gwrs gradd meistr Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae’r fwrsariaeth wedi’i gefnogi gan gwmnïau cynhyrchu Rondo a Media Atom.

A bydd y ddwy fwrsariaeth arall gan S4C gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy’n Ddu, Asiaidd neu leiafrif ethnig, yn anabl, neu o gefndir economaidd-gymdeithasol di-freintiedig.

Fe fydd un ysgoloriaeth ar gyfer myfyriwr ar y cwrs gradd baglor Actio, ac un fwrsariaeth ar gyfer myfyriwr iau yn Stiwdio Actorion Ifanc y Coleg Cerdd a Drama.

“Mae creu cyfleoedd fel cynnig bwrsariaethau’n gam bach ond pwysig i gefnogi datblygiad talent dyfodol S4C, meddai Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C.

“Mae’n bleser gallu gweithio ar y cyd gyda sefydliadau addysgol, cwmnïau cynhyrchu ac arloeswyr fel Jams & Mr B i sicrhau fod talent Cymru yn cael cefnogaeth hollbwysig ar ddechrau taith gyrfa.”

“Moment fawr iawn”

Y cyflwynydd adnabyddus Jason Mohammed a’r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol Nathan Blake sy’n rhedeg cwmni cynhyrchu Jams & Mr B, ac maen nhw yn cefnogi bwrsariaeth chwaraeon S4C.

“Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gydag S4C ar y fwrsariaeth hanesyddol hon,” meddai Jason Mohammad.

“Mae hon yn foment fawr iawn i’n cwmni newydd JAMS & MR B Productions. Rydym wedi ymrwymo i helpu darlledwyr i greu gweithlu amrywiol a chynyddu amrywiaeth wrth wneud rhaglenni ar y sgrin a thu ôl i’r camera.

“Mae S4C wedi bod yn wych wrth weithio gyda ni ar ein huchelgais i helpu i newid bywydau pobl ifanc drwy roi cyfle unigryw iddynt lwyddo ym myd darlledu yng Nghymru.”

Ychwanegodd Nathan Blake:

“Mae’r cynllun Bwrsariaeth a gynigir gan S4C, partneriaid a’n cwmni cynhyrchu ein hunain Jams & Mr B yn cyflwyno cyfle sy’n newid bywyd.

“Mae ei chreu yn fan cychwyn a fydd yn arwain at gyfleoedd pellach yn y dyfodol.

“Rydyn ni’n credu y bydd y gronfa addysg ychwanegol hon yn helpu i adeiladu a chreu cydraddoldeb ac amrywiaeth parhaus o fewn y diwydiant dros y blynyddoedd a’r degawdau nesaf.

“Yn unigol gallwn newid bywydau ond gyda’n gilydd gallwn newid y gêm am byth.”