Mae’r rhestr fer o’r llyfrau Saesneg sydd yn y ras am Wobrau Tir na n-Og 2022 wedi cael eu datgelu heno (Mawrth 11).
Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ar raglen Radio Wales Arts Show, ac mae hi’n cynnwys drama sydd wedi’i gosod yn ystod rhyfel, chwedlau hynafol wedi’u hadrodd o’r newydd, stori’n myfyrio ar rym iachaol natur, a chyflwyniad i rai o gymeriadau hanes Cymru.
Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau llenyddiaeth plant a phobol ifanc hynaf yng Nghymru, a thros y blynyddoedd mae awduron a darlunwyr fel Manon Steffan Ros, Jac Jones, a Catherine Fisher wedi dod i’r brig.
Eleni, mae yna bedwar o lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer, yn hytrach na thri, “gan ddweud rhywbeth am y safon”.
Alex Ball, Jannat Ahmed, Simon Fisher, a Lydia Bundy sy’n beirniadu’r categori Saesneg eleni, a’r llyfrau Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilyn ar gyfer plant rhwng 4 a 18 oed sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
Welsh Fairy Tales, Myths and Legends gan Claire Fayers (Scholastic, 2021)
Llyfr yn llawn straeon rhyfeddol a chyffrous o fyd y tylwyth teg, mythau a chwedlau Cymreig, sy’n cael eu hadrodd o’r newydd.
10 Stories from Welsh History that everyone should know gan Ifan Morgan Jones (darluniau gan Telor Gwyn) (Dragon Press, 2021)
Cyflwyniad i ddeg ffigwr allweddol a digwyddiadau yn hanes Cymru.
Swan Song gan Gill Lewis (Barrington Stoke Ltd, 2021)
Llyfr emosiynol am rym iachaol natur.
The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury Publishing Ltd, 2021)
Stori wedi’i gosod yng nghymoedd de Cymru mewn cyfnod o ryfel.
‘Y fath amrywiaeth’
Dywedodd Alex Ball, Cadeirydd y Panel Saesneg, ei bod hi wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r broses feirniadu.
“Fel llyfrgellydd, mae wedi bod yn braf darganfod awduron a theitlau gyda’r fath amrywiaeth o gynnwys gyda dimensiwn Cymreig dilys, nifer ohonynt mewn lleoliadau braf.
“Rwyf wedi argymell sawl un o’r teitlau yma i ffrindiau, teulu a darllenwyr ifanc rwy’n eu cyfarfod yn y llyfrgell.
“Mae bob amser yn braf gallu rhannu teitlau gwych gyda chynulleidfa newydd a rhannu’r cyfle i weld ein diwylliant, ein hanes a’n gwlad yn cael eu hadlewyrchu rhwng cloriau llyfr da.”
‘Safon uchel’
Mae’r rhestr fer yn un o “safon uchel eto eleni”, meddai Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause.
“Rwy’n falch iawn nad oes rhaid i mi ddewis enillydd o blith y detholiad bendigedig yma!
“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi bod ynghlwm â chreu’r cyfrolau sydd ar y rhestr fer.
“Mae’r ffaith fod pedwar llyfr yn hytrach na’r tri arferol yn dweud rhywbeth am y safon eleni – mae hyn yn dyst i nifer y llyfrau gwych oedd yn gymwys ar gyfer y wobr eleni.”
Bydd y teitl Saesneg buddugol yn cael ei ddatgelu ar Radio Wales Arts Show nos Wener, Mai 20, a bydd yr enillwyr Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych ddydd Iau, 2 Mehefin.