Bydd Cwmni Theatr Maldwyn yn atgyfodi’r sioe gyntaf iddyn nhw erioed ei pherfformio wrth gyrraedd carreg filltir arbennig.

I nodi cyfnod newydd yn hanes y cwmni, bydd cynhyrchiad newydd o sioe Y Mab Darogan yn cael ei chynhyrchu a’i llwyfannu ledled Cymru yn hwyrach eleni.

Y llynedd, roedd y cwmni’n dathlu 40 mlynedd ers i Derec Williams, Linda Gittins a Penri Roberts ei sefydlu.

Dros y deugain mlynedd, maen nhw wedi llwyfannu nifer o sioeau gwreiddiol eiconig drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys Y Cylch, Pum Diwrnod o Ryddid, ac Ann!, a rhoi cyfleoedd i gannoedd o bobol ifanc a hŷn yn y broses.

Y cyntaf o’r rheiny oedd Y Mab Darogan, sioe sy’n dilyn hanes bywyd Owain Glyndŵr a gafodd ei pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth ym 1981.

Atgyfodiad

Mae un o sylfaenwyr y cwmni, Penri Roberts, wedi sôn mwy am y trefniadau.

“Bydd yr ymarferion yn dechrau nos Fawrth nesaf (Mawrth 15) yng Nghanolfan Gymunedol Glantwymyn,” meddai.

“Mae croeso i aelodau hen a newydd ymuno â ni i baratoi am daith o’r cynhyrchiad ym misoedd Hydref a Thachwedd 2022.

“Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn ymweld â theatrau megis Yr Hafren yn y Drenewydd, Neuadd Fawr Aberystwyth, Y Stiwt yn Rhosllannerchrugog, Galeri Caernarfon a’r Ffwrnais yn Llanelli.”

Mae’r cynhyrchwyr wedi golygu ychydig ar y sioe wreiddiol er mwyn cryfhau rhai rhannau, a gan ei bod hi’n arfer bod yn dair awr o hyd.

Penri Roberts fel Owain Glyndŵr yn Y Mab Darogan

‘Gwerthfawr’

Grant o £10,000 gan y Loteri Genedlaethol sydd wedi galluogi’r cwmni i wireddu’r perfformiad, ac mae Penri Roberts yn ddiolchgar iawn am y grant.

“Mae’r cyfraniad gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn hollol allweddol i ni,” meddai.

“Mae’n gyfraniad a fydd yn ein galluogi ni i greu cynhyrchiad o’r safon uchaf posib ar gyfer ein taith a fydd yn dathlu ein bodolaeth dros y 40 mlynedd diwethaf.

“Yn dilyn cyfnod llwm yn ariannol, bydd y nawdd hwn yn gwneud gwahaniaeth arbennig wrth i ni fedru cyflogi pobl broffesiynol i gynllunio gwisgoedd a set, gan hefyd sicrhau y bydd ein cwmni amatur unwaith eto yn cael perfformio ein sioe o dan amodau proffesiynol.

“Diolch i’r Gronfa am eu haelioni a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i safon ein cynhyrchiad newydd o’r Mab Darogan.”

Dywedodd Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, eu bod nhw’n gwybod pa mor werthfawr yw gwaith Cwmni Theatr Maldwyn.

“Yn rhoi cyfleoedd theatrig i drigolion y canolbarth, gan gyfrannu at gadw’r iaith Gymraeg a’r diwylliant yn fyw yn sgil hynny.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sioe Y Mab Darogan ar ei newydd wedd wrth iddi deithio o amgylch theatrau Cymru yn yr hydref.”