Mae’r canwr chwedlonol Meic Stevens yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 80 oed heddiw (dydd Sul, Mawrth 13).

Yn cael ei gydnabod fel un o ffigyrau mwyaf allweddol y sin roc Gymraeg, mae gyrfa Meic Stevens y tu ôl i’r gitâr wedi ymestyn dros bum degawd, ac wedi ei weld yn canu ar lwyfannau mwyaf Cymru.

Er mai yn Saesneg y dechreuodd ganu yn y 60au, daeth tro ar fyd iddo pan benderfynodd ysgrifennu yn y Gymraeg, achos mewn chwinciad, roedd wedi recordio cyfres o EPs eiconig ar label Dryw, megis Y Brawd Houdini.

Ac yna fe ddaeth yr albyms gan “y Bob Dylan Cymraeg” fel dilyw drwy gydol y 70au a’r 80au, gyda chaneuon sy’n dal i lenwi’r awyr hyd heddiw.

Nos Lun (Mawrth 14), fe fydd rhaglen wythnosol Recordiau Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru yn dathlu’r pen-blwydd arbennig.

Mae cyflwynydd y rhaglen, y cerddor Rhys Mwyn, wedi bod yn siarad gyda golwg360 am yrfa gerddorol y canwr o Solfach.

Etifeddiaeth

Ers 1970, mae Meic Stevens wedi rhyddhau tomenni o recordiau poblogaidd, o Gwymon i Ysbryd Solva, ac mae gan bob un ei ffefryn o’r holl ganeuon sydd ar y recordiau hynny.

“Mae o’n golygu lot o bethau i lot o bobol,” meddai Rhys Mwyn.

“Beth mae rhywun yn ffeindio pan ti’n holi am hoff ganeuon Meic Stevens, mae yna ddwsinau a dwsinau o ganeuon gwahanol gan bawb.

“Felly yn sicr dros ei yrfa fo, mae yna lot o ganeuon sydd wedi golygu rhywbeth i bobol.”

Atgofion cyntaf

Soniodd Rhys am y tro cyntaf iddo brynu cerddoriaeth Meic Stevens yn blentyn ifanc.

“Mi wnes i brynu’r sengl Diolch yn Fawr yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog pan o’n i yn yr ysgol gynradd,” meddai.

“Bryd hynny, roedd prynu’r senglau hyn yn rhywbeth reit bwysig. Oeddet ti’n cael senglau Dafydd Iwan, Huw Jones, Heather Jones, Tebot Piws a Meic Stevens wrth gwrs, felly rydyn ni’n sôn am y 70au.

“Yn y cyfnod yna, pan o’n i tua deg oed mae’n siŵr, wnes i ddarganfod y records yma gan yr holl artistiaid.

“Felly dyna’r atgofion cyntaf – y senglau cynnar yna i gyd.”

‘Roedd yna gigs da, ac roedd yna gigs mwy anhrefnus’

Erbyn ei arddegau, roedd Rhys Mwyn a llawer o’i genhedlaeth yn tueddu i osod y nodwydd ar feinyls artistiaid fel The Clash a Geraint Jarman.

Er hynny, roedd o’n aml yn gweld perfformiadau Meic Stevens ar lwyfannau Cymru yn y cyfnod.

“Yn hwyrach wedyn, pan mae rhywun yn mynd i’w arddegau ac yn mynd i’r brifysgol, mae rhywun yn dod yn fwy ymwybodol,” meddai.

“Roeddwn i yn y brifysgol yng Nghaerdydd, a wnes i weld Meic Stevens mewn gigs sawl gwaith.

“Erbyn hynny, roedd rhywun yn deall mwy am ei gymeriad. Roedd yna gigs da, ac roedd yna gigs mwy anhrefnus.

“Roedd rhywun yn dod i ddeall wedyn, os oeddet ti’n mynd i weld Stevens, alli di gael noson wych ac alli di gael noson ddigon blêr!”

‘Cannoedd o awgrymiadau’

Mae gwrandawyr Recordiau Rhys Mwyn wedi cael eu hannog i bleidleisio am eu hoff ganeuon gan Meic Stevens, a bydd y rheiny’n cael eu cyhoeddi ar yr awyr nos Lun.

Hefyd ar y rhaglen, fe fydd Rhodri Llywelyn yn trafod tapiau coll gan y canwr y mae wedi dod ar eu traws.

“Rydyn ni wedi gofyn i’r gwrandawyr ddewis eu tri hoff gân Stevens,” meddai Rhys Mwyn.

“Ychydig bach o hwyl ydy o i weld beth mae pawb yn ei feddwl.

“Ond rydyn ni wedi cael cannoedd, yn llythrennol, o awgrymiadau, a ddaru fo gymryd tua dau ddiwrnod i mi sortio fo i gyd allan. Roeddwn i’n difaru cychwyn yn y diwedd!

“Ti’n sôn am rai caneuon sydd wedi cael tua thair pleidlais. Mae yna rai eraill wedi cael degau o bleidleisiau.”

Bu Golwg yn holi nifer o bobol sy’n gyfarwydd â gyrfa Meic Stevens yr wythnos hon, a gallwch ddarllen y darn hwnnw isod:

Meic Stevens yn 80 oed

Non Tudur

Mae eicon ac arwr y byd canu roc a gwerin Cymraeg yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed heddiw (Mawrth 13)