Mae eicon ac arwr y byd canu roc a gwerin Cymraeg yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed heddiw (Mawrth 13)…
Dros 15 o recordiau hir, dwsin o gasgliadau byw a chaneuon cynnar. Degau ar ddegau o gigs chwysu-chwartiau ar lwyfan gyda grŵp llawn, ac ychydig yn llai o sioeau un-dyn distawach, pan fo grym ei gerddoriaeth yn ddigon i lorio dyn…
Mae gan bob un ohonon ni ein hatgof o hoff gig gan Meic Stevens, ac mae gan bawb eu hoff gân. Ac oes, mae digonedd o ddewis. O glasuron pop fel ‘Y Brawd Hwdini’ i anthemau tyner am fro, teulu, a chyfeillion fel ‘Cân Walter’, ‘Merch o’r Ffatri Wlân’ a ‘Gwin a Mwg a Merched Drwg’. O roc bloesg ‘Dwisio Dawnsio’ a dwli ‘Yr Incredibyl Seicedelic Siliseibyn Trip i Grymych’ i ganeuon lleddf gwleidyddol fel ‘Tryweryn’ a ‘Bobby Sands’. Heb sôn am rai cryfion Saesneg cynnar fel ‘Rowena’, ‘Left Over Time’ a ‘The Blues Run the Game’. A swyn a swagr harbwr bach Solfach ynghudd yn dawel bach ym mhob nodyn.
Aeth Golwg i holi ambell un sy’n gyfarwydd iawn â gyrfa hir y trwbadŵr o Solfach…
Huw Stephens, cyflwynydd Radio Cymru
Mae Meic Stevens fel ei fod e wedi bod yna ers erioed. Rydyn ni gyd wedi tyfu lan yn gwrando arno fe. Dw i’n cofio casetiau yn y car, pethe fel Lapiz Lazuli, ac roedd gan Mam a Dad ei recordiau. Ond ble ry’ch chi’n dechrau?
Mae e wedi troi yn ffigwr mytholegol cerddoriaeth Cymraeg. Mae yn uchel ei barch yn gerddorol, ac mae yna ramantiaeth yn perthyn i’w gerddoriaeth e, a’i statws e, achos ei fod e’n dal i gigio, ac yn dal i chwarae gigs. Llai yn ddiweddar oherwydd Covid, ond mae yn dal yn ffigwr pwysig iawn mewn cerddoriaeth Gymraeg.
Dw i wedi ei weld yn canu yn Saesneg mewn gigs dros y blynyddoedd diwethaf ’ma. Ni yn ffodus iawn ei fod e wedi cyhoeddi cynifer o albyms cofiadwy. Mae pobol yn sôn am Gwymon (1972) a Gôg (1977) ac wrth gwrs Outlander (1970), ond rhaid i chi sôn am albyms fel Gwin a Mwg a Merched Drwg (1987), ac Er Cof am Blant y Cwm (1993). Mae e wedi cyhoeddi cynifer o recordiau diddorol ar hyd y blynyddoedd a chynifer o gasgliadau dros yr 20 mlynedd diwethaf. Wrth i’r byd fynd yn llai diolch i’r We, mae mwy o ddiddordeb wedi bod yn ei gerddoriaeth, a mwy o gasgliadau o’r EPs a’r traciau byw wedi dod mas.
Mae’n anodd, achos mae pobol fel Meic Stevens, Heather Jones, a Geraint Jarman, yn cael eu heilun-addoli, ond maen nhw’n gerddorion sy’n gorfod gwneud bywoliaeth ar yr un pryd. Mae hynny’n anodd, hyd yn oed i’n hartistiaid pwysicaf ni. Maen nhw’n gerddorion gweithgar sydd eisie gweithio a chwarae, ac mae Meic Stevens wedi gwneud hynny tan nawr. Mae cwpwl o adegau yn ei fywyd e lle’r oedd e’n sâl iawn, yn symud i Ganada, ond mae wedi goresgyn hynny, ac mae’n dal yng Nghymru, ac yn dathlu ei ben-blwydd yn 80.
Does dim dadlau gyda Gwymon fel albwm. Mae hi’n arbennig o brydferth. Mi wnaeth Andy Votel a Gruff Rhys a’r casgliadau Welsh Rare Beats ddod â cherddoriaeth Meic i gynulleidfa newydd, a sbarduno diddordeb gan gasglwyr recordiau feinyl prin o amgylch y byd.
Fe roddon ni’r Welsh Music Inspiration Prize iddo fe dair blynedd yn ôl achos ei fod e wedi bod yn ysbrydoliaeth ar hyd y blynyddoedd i grwpiau, ac wedi gwneud hynny drwy gydol ei yrfa. Wnaeth e ddim cymryd job yn y cyfryngau, neu unrhyw beth fel yna, mae wedi aros yn driw i’w grefft.
Hoff gân?
Fi’n caru ‘Merch o’r Ffatri Wlân’. Mae clywed e’n canu am ei deulu yn bwerus iawn. Mae e’n sgwennu caneuon tawel iawn a phrydferth dros ben. Pan mae’n dod at y gerddoriaeth, ac fel cerddor, mae e wedi bod yn hanfodol i ddiwylliant Cymraeg.
Jim O’Rourke, cyfansoddwr sy’n hanu o’r un ardal â Meic Stevens
Roedd fy nhad-cu wedi dysgu Mathemateg i Meic, yn Ysgol Uwchradd Tyddewi. Mae Meic o Solfach, a Mam o Dyddewi, felly mae’r cyswllt yna yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o fy nhrafodaethau i gyda Meic o dro i dro.
Fy nghyswllt cyntaf personol oedd pryd o’n i’n Drefnydd yr Urdd yn Sir Benfro, yn y 1970au. Roeddwn i yn trefnu clwb gwerin a nosweithiau, ac roedd Meic yn un o’r artistiaid a oedd yn cymryd rhan yn rheiny. Roedd nosweithiau hwyliog iawn yn Nanhyfer, a’r Golden Lion yn Nhrefdraeth. Ro’n i’n gweld e’n rhan o fy ngwaith gyda’r Urdd i drefnu Adloniant i’r bobol leol hefyd. Roedd ei glasuron yn glasuron pryd hynny, ac maen nhw’n sefyll o hyd, fel ‘Merch o’r Ffatri Wlân’.
Roedd Meic yn hoff iawn o ddod yn ôl i Sir Benfro, o le bynnag roedd e’n byw – roedd e am gyfnod yn Llydaw ac wedi byw mewn nifer o lefydd a theithio’n eang. Ond fel fi, mae ei wreiddiau yn Sir Benfro yn annwyl iddo. Bro ein cyndadau. Mae’r fro yn ganolog i’w bersonoliaeth e. Mae Sir Benfro allan yn y pen draw, tamed bach fel Pen Llŷn, yn creu cymeriadau… Ers oes y seintiau, mae Sir Benfro wedi bod yn gymuned sy’n edrych allan, tuag at y môr, ac rydyn ni’n gweld tinc o hynny yn rhai o ganeuon Meic hefyd.
Hoff gân?
‘Merch o’r Ffatri Wlân’ yw’r un sy’n taro tant pan fi’n ei chlywed hi, yn sôn am ei fam.
Hywel Gwynfryn, a fu’n sgrifennu ac addasu geiriau caneuon Meic Stevens
Ruth Price, cynhyrchydd Disc a Dawn, yn ôl yn y 1960au, ddaru ddarganfod Meic Stevens mewn ffordd o siarad. Roedd o yn gweithio yn Llundain fel canwr, ac roedd o wedi cyhoeddi record hir o’r enw Outlander (1970). Mi ddaru hi glywed amdano – y Cymro yma o Sir Benfro a oedd yn edrych yn wahanol iawn i unrhyw un arall a oedd ar y sîn Gymreig ar y pryd, yn edrych ychydig bach yn wyllt, yn gwisgo sbectol dywyll. A beth oedd yn ei wneud yn wahanol i bobol eraill o’i gwmpas o – roedd o yn gitarydd medrus. Mi benderfynodd Ruth y byddai’n syniad gwych ei gael o ar Disc a Dawn ond doedd ganddo fo ddim caneuon Cymraeg i’w canu. Felly mi wnaeth hi ofyn i mi gyfieithu un o’i ganeuon.
Mi oedd ganddi hi ddau neu dri o bobol yr oedd hi’n gallu troi atyn nhw yn wythnosol i gyfieithu caneuon. Roedd Ruth yn clywed cân ar raglen bop Saesneg ar y dydd Sadwrn, ac wedyn roedd hi eisio cyfieithiad o’r gân honno i fod ar Disc a Dawn erbyn y dydd Sadwrn canlynol. Roedd fel conveyor belt, roedd Endaf Emlyn yn un arall a oedd yn gwneud y gwaith hwnnw. Fe wnaeth hi wahodd Meic i’r BBC, a fy ngwahodd innau i gyfarfod a siarad efo fo. Mi soniodd Meic am gân brotest yr oedd o wedi ei sgrifennu am y rhyfel yn Fietnam, ‘The Eagle and the Dove’ – mi wnaeth o ganu’r gân i Ruth, ac roedd hi wrth ei bodd, a dywedodd hi ‘honna ydi’r un – fedri di ei chanu hi ddydd Sadwrn nesa’.’ O’r gore’. Roedd hi fyny i mi wedyn i sgrifennu’r geiriau i Meic. Es i ati i gyfieithu’r gân, fel ‘Yr Eryr a’r Golomen’ yn y Gymraeg. Dyna oedd y gân gynta’ iddo ei recordio yn y Gymraeg.
Datblygodd cyfeillgarwch rhyngom ni. Mi oeddwn i’n was priodas yn ei briodas o ym Mangor, ac mi ddaeth o i aros efo ni yn Ffordd Pencisely. Dw i’n cofio’n iawn iddo goginio cawl, ac mi aeth y cawl â phob llysieuyn oedd ganddon ni. Roedd ganddo fo grochan enfawr yn berwi yn y gegin, ac mi fuon ni’n bwyta’r cawl am yr hyn a oedd yn teimlo fel tua thri mis. Mi oedden ni’n ei gyfarfod o weithiau mewn nosweithiau llawen, roedd pawb ohonon ni’n mynd o gwmpas, yn cyflwyno yn fy achos i. Dw i’n cofio mynd efo fo i Ddinbych, i noson lawen yn fan’no, fo a’r Henesseys yn fy nghar i, a chychwyn yn ôl i Gaerdydd ar ôl y noson lawen. I lawr o Ddinbych, ac fel ro’n ni’n dod i mewn i’r Amwythig yn y bore, roedd yr haul yn codi, ac roedden ni ill dau yn sgrifennu cân arall, ‘Byw yn y Wlad’, linell am linell. Fo efo’i gitâr ar ei lin, ac yna dod i mewn a dweud ‘ti’n gwybod be’ hoffen i wneud?’ ‘Byw yn y Wlad… gyda’n nheulu, gyda’n ffrindiau…’ Mi aeth hi’n fath o sgwrs efo’n gilydd, a fynte’n troi’r sgwrs yn gân. Erbyn Caerdydd, roedd y gân wedi ei sgrifennu. Wedyn mi wnes i sgrifennu cân arall iddo fo, ‘Heddiw Ddoe a Fory’ – ‘Dim ond heddiw, ddoe a fory yw ein bywyd / Heddiw, ddoe a fory dyma’i gyd,/ Ddoe sydd wedi mynd, A heddiw cofia ffrind/ Falle na ddaw
fory fyth i ti,’ sy’n digwydd bod yn eiriau cyfoes iawn o gofio’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin. Dyna fy nghysylltiad cynnar i efo Meic Stevens.
Mae rhai o’r geiriau [yn ei ganeuon] fel cerddi. Dw i o hyd yn cofio’r cwpled ‘Cyllell drwy’r galon yw hiraeth/ Pladur drwy wenith yr enaid’.
Hoff gân?
Y gân a sgrifennodd o i’w ffrind o Lydaw, ‘Erwan’.
[Er gwybodaeth, Ruth Price a oedd wedi comisiynu’r caneuon ‘Cyllell Drwy’r Galon’, ‘Dociau Llwyd Caerdydd’, ac ‘Arglwydd Penrhyn’ ar gyfer yr opera roc Hirdaith a Chraig y Garreg Ddu. Cyfansoddodd Meic Stevens ganeuon i’r opera roc Dic Penderyn hefyd yn 1978, fel y gân hyfryd ‘Pe Medrwn’ i eiriau Rhydwen Williams.]