Ar ôl gweithio mewn chwarel ac yna mewn ffatri lechi am flynyddoedd, roedd Lee Cunnington o Lan Ffestiniog yng Ngwynedd yn barod am newid gyrfa. Fe brynodd fan fach ac mae wedi bod yn hunangyflogedig ers yr haf y llynedd yn symud pob math o bethau – o wlâu i wlân. Mae Lee bellach i’w weld mewn cyfres newydd o’r enw Yn y Fan a’r Lle ar S4C…