Mae S4C a chwmni dosbarthu a hyrwyddo PYST wedi cyhoeddi cynllun newydd heddiw (dydd Llun, Mawrth 14) i gefnogi creu fideos cerddorol annibynnol i artistiaid newydd a chreu cyfleoedd i gyfarwyddwyr ifanc.

Bydd PYST yn gyfrifol am gydlynu’r prosiect, a fydd yn galluogi deg fideo newydd i gael eu cynhyrchu, ac iartistiaid sy’n cychwyn ar eu taith cerddorol gael eu targedu, gyda’r nod hefyd o roi cyfle i bobol ddatblygu eu doniau wrth gynhyrchu fideos.

“Mae’r buddsoddiad yma yn nyfodol cerddoriaeth a fideo Gymraeg yn gam allweddol,” meddai Alun Llwyd, prif weithredwr PYST.

“Mae cael S4C yn ariannu cynllun fydd yn creu cyfleoedd i rai nad sydd ar hyn o bryd yn cael y cyfleoedd hynny ac sydd hefyd yn arf hyrwyddo gwerthfawr i artistiaid newydd ei ddefnyddio yn gam arall pwysig mewn creu tirwedd fydd yn ysgogi a chefnogi cerddorion a chyfarwyddwyr y dyfodol.”

‘Datblygu talent’

“Dwi’n angerddol am roi llwyfan i dalentau cerddorol newydd yn ogystal a datblygu sgiliau cynhyrchwyr ifanc,” meddai Rhodri ap Dyfrig.

“Rydan ni’n falch iawn o gefnogi PYST gyda’r cynllun hwn fydd, gobeithio, yn gyfraniad gwerth chweil i greu sîn gerddoriaeth hyfyw yng Nghymru.”

Yn ôl Branwen Williams o Recordiau I Ka Ching, mae’r cynllun yn “un hynod gadarnhaol” i artistiaid a bandiau newydd ar ôl dwy flynedd anodd.

“Wedi hirlwm y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cynllun hwn yn un hynod gadarnhaol i’n artistiaid a’n bandiau newydd, yn enwedig a hwythau wedi colli degau o gyfleon i sefydlu eu hunain,” meddai.

“Bydd y fideos yn dod â’u cerddoriaeth newydd yn fyw, ac yn fodd o ddenu cynulleidfa newydd, a fydd maes o law yn cryfhau eu statws fel band wrth iddynt ail-gydio yn y perfformio.”

Dywed Gruff Owen o label Libertino fod y cynllun yn un “cyffrous ac arwyddocaol”.

“Mae gwelediad uchelgeisiol PYST yn hanfodol i ddyfodol a datblygiad llewyrchus sîn gerddoriaeth Cymru,” meddai.