Mae gweithwraig ddyngarol o Gymru’n dweud bod effaith seicolegol y gwrthdaro yn Wcráin “yn anodd ei ddirnad”, wrth i filiynau o bobol a phlant ffoi o’r wlad.

Yn sgil yr ymosodiadau yn nwyrain Ewrop, mae Deb Barry o Gaerffili wedi bod yn arwain yr ymateb ar ran elusen Achub y Plant yng Ngwlad Pwyl, lle mae miliwn o bobol o Wcráin bellach wedi cael lloches.

Mae hi wedi ymateb ar ôl i blentyn wyth oed ddod ati a datgelu’r holl bethau roedd hi wedi gallu eu ffitio mewn un bag ar ôl gorfod gadael ei chartref ar unwaith.

Yn y ganolfan gymorth lle’r oedd rhai ffoaduriaid wedi cyrraedd, agorodd Olena, y ferch ifanc, ei bag a dangos tegan meddal, llyfr lliwio a phensiliau, sgarff, brws gwallt, rholyn o bapur tŷ bach a photyn o datws.

Dyna’r cyfan roedd hi wedi gallu ei gludo â hi wrth iddi wynebu taith anoddaf ei bywyd ifanc hyd yn hyn.

Fe gafodd hynny effaith sylweddol ar Deb, gan wneud iddi feddwl am yr effaith mae’r gwrthdaro wedi ei gael ar y miliynau o blant sy’n byw yn Wcráin.

‘Beth yn y byd sy’n mynd drwy feddwl y plant yma?’

“Fe glywais lais dynes yn galw ‘Achub y Plant, fedra i ofyn am eich help?’,” meddai Deb.

“Ac wedi aros i gael sgwrs gyda fi, fe ganfyddais eu bod yn ceisio cyrraedd ffrindiau yn Berlin ond nad oedd ganddynt unrhyw syniad sut i gyrraedd yno.

“Fe fynnodd ei merch ddangos i mi beth roedd hi wedi ei bacio ar gyfer y siwrne ac fe ddechreuodd dynnu popeth oedd yn gyfarwydd ac yn angenrheidiol iddi allan o’i bag; ei hoff degan meddal, sef cwningen fach; llyfr lliwio a phensiliau, brwsh gwallt, newid dillad, rholyn o bapur tŷ bach, hylif wyneb a photyn o datws.

“Fe wnaeth i mi feddwl mewn difrif beth yn y byd sy’n mynd drwy feddwl y plant yma ar hyn o bryd a sut mae’n teimlo i’r rhieni i orfod dweud wrthynt am bacio popeth sydd yn annwyl iddyn nhw; eu bywyd; mewn un bag bach a gorfod ffoi gan adael tadau, brodyr a theidiau ar eu holau.

“Mae effaith seicolegol y gwrthdaro yma yn anodd ei ddirnad.”

Cymorth dyngarol

Hyd yma, mae bron i £8m wedi ei godi yng Nghymru ar gyfer Apêl Ddyngarol Wcráin, a gafodd ei lansio ychydig dros wythnos yn ôl.

Mae hynny’n cynnwys y £4m a gafodd ei roi gan Lywodraeth Cymru i’r apêl, sy’n cael ei arwain gan dros ddwsin o elusennau DEC Cymru.

Bellach, mae dros 2.5m o bobol wedi ffoi o Wcráin dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’n debyg bod hanner y rheiny’n blant.

Ers i’r gwrthdaro gwreiddiol ddechrau yn 2014, ar ôl i Rwsia feddiannu’r Crimea, mae Achub y Plant wedi darparu cefnogaeth ar lawr gwlad yno.

“Fe safwn gyda phlant Wcráin,” meddai Irina Saghoyan, Cyfarwyddwr Dwyrain Ewrop Achub y Plant.

“Mae ein hymroddiad i’r plant a’u cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn ddigyfnewid. Mae ein partneriaid anhygoel wedi bod yn allweddol yn sicrhau y gallwn gael cymorth hollbwysig draw at blant a’u teuluoedd.

“Mae plant wedi tystio neu wedi profi gweithredoedd treisgar, ac mae rhai yn dangos arwyddion o bryder mawr. Mae ein partner Slavic Heart yn dweud wrthym fod y plant angen cymorth ar frys i helpu gyda’u hiechyd meddwl, a hynny ynghyd ag anghenion sylfaenol fel bwyd, dillad cynnes a meddyginiaeth.

“Rydym angen arian fel y gallwn barhau i weithredu dros blant sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng yma.

“Bydd gan y gwrthdaro yma ganlyniadau pellgyrhaeddol ar blant yn Ewrop ac ar draws y byd. Byddwn yn parhau i ymateb ble bydd yr angen mwyaf ac yn y mannau ble mae plant angen amddiffyniad ar frys.”