Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn amau bod Mark Drakeford yn “cydio yn nwylo cenedlaetholwyr” wrth wneud safiadau yn erbyn San Steffan.

Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog Cymru gyhoeddi llythyr ar y cyd gyda Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, yn datgan eu dyheadau eu hunain yn y ddwy wlad wrth gefnogi ffoaduriaid sy’n cyrraedd o Wcráin.

Yn eu llythyr i’r Ysgrifennydd Codi’r Gwastad Michael Gove, mae’r ddau arweinydd yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo bod y cynllun nawdd dyngarol “yn mynd yn ddigon pell” ac yn “codi cwestiynau difrifol sydd heb eu hateb”.

Byddai Cymru yn derbyn 1,000 o ffoaduriaid yn ystod cyfnod cyntaf y cynllun, gyda mwy yn cael eu derbyn ar ôl i’r capasiti ddatblygu yn y dyfodol agos.

‘Rhaid i rethreg gyfateb â gweithred’

Ond mae Mark Isherwood, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, yn tybio nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar eu gair hyd yn hyn.

“Rydyn ni’n falch bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd eisiau chwarae ei rhan,” meddai.

“Ond fel rydyn ni wedi ei ddweud o’r blaen, mae’n rhaid i rethreg gyfateb â gweithred.

“Mae’r ffoaduriaid hyn, sy’n ffoi rhag rhyfel anghyfiawn yn eu mamwlad, angen cartrefi, gofal iechyd, swyddi ac addysg.

“Dylai’r Llywodraeth Lafur fod yn dyrannu adnoddau ar gyfer hyn, ond does gennym ni ddim manylion o hyd. Mae ffoaduriaid o Affganistan yn parhau i fod mewn gwestai neu letyau gwely a brecwast ledled y wlad, yn aros am ffordd gynaliadwy o fyw sawl mis ar ôl cyrraedd Cymru.”

‘Angen cydio yn nwylo cenedlaetholwyr’

Mae Mark Isherwood, sy’n Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, hefyd yn cyhuddo Mark Drakeford o ddibynnu ar yr Alban unwaith eto.

“Mae’n siomedig hefyd fod Mark Drakeford wedi mynd i’r arfer o fod angen cydio yn nwylo cenedlaetholwyr,” meddai wedyn.

“Allai o ddim anfon ei lythyr at y Llywodraeth Geidwadol heb rywun sydd ddim yn credu ym modolaeth y wlad hon wrth ei ochr.”

Fe gafodd y mater ei godi gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ddydd Mercher diwethaf (Mawrth 9).

Holodd Mark Isherwood yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt a oedd unrhyw fwriad i sefydlu cynllun nawdd teuluol ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin.

“Dw i hefyd mewn cyswllt â grwpiau sy’n paratoi at gyrhaeddiad dinasyddion o Wcráin ac eraill yng ngogledd Cymru sydd wedi eu heffeithio gan ryfel,” meddai.

“Dw i’n amau’n gryf na fyddan nhw eisiau clywed fod Drakeford a’i lywodraeth yn bygwth peidio cefnogi Cynllun Dyngarol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog yr Alban wedi cadarnhau mewn llythyr at Michael Gove eu hymrwymiad i gefnogi’r cynllun nawdd dyngarol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ond pwysleisiwyd fod angen mwy o eglurder ar sut y bydd y cynllun yn gweithio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”