Bydd digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf er mwyn rhoi cymorth i fusnesau ar eu taith i ddod yn fwy gwyrdd.
Fe fydd Cyfres Gweminarau’r Weledigaeth Werdd yn ymdrin â nifer o elfennau, gan gynnwys technegau ac adnoddau i fesur effaith amgylcheddol, a sut i leihau gwastraff drwy fodelau cylchol.
Yn ôl arolwg, roedd 40% o weithwyr yn y Deyrnas Unedig yn teimlo nad yw eu cyflogwyr yn mynd yn ddigon pell i sicrhau eu bod nhw’n gynaliadwy.
Dywed Busnes Cymru fod busnesau yng Nghymru “ar flaen y gad” wrth ddatblygu cynlluniau gwyrdd, gyda nifer ohonyn nhw eisoes yn cymryd camau i leihau eu defnydd o ddŵr ac ynni.
Ond eu bwriad gyda’r digwyddiadau rhithwir rhwng Mawrth 21 a 25 yw hyrwyddo’r buddion ymhellach a dangos sut mae rhedeg busnesau mewn ffordd amgylcheddol gyfeillgar.
Gwneud newidiadau ‘o fudd i chi’
Fe fydd cwmnïau gwasanaethau sy’n arbenigo yn y diwydiant, gan gynnwys Planet Mark, Circulogic, Valpak a Costain, yn gweithio ochr yn ochr â Busnes Cymru wrth ddarparu’r digwyddiadau.
“Er bod Cymru’n gwneud pethau anhygoel eisoes yn y maes hwn, gwyddom fod llawer o fusnesau heb gymryd unrhyw gamau eto,” meddai David ap John Williams, Rheolwr Contractau Cenedlaethol Busnes Cymru.
“Mae yna rai sydd wedi dechrau yn dal i fod yn ansicr ynglŷn â sut i wneud newidiadau sylweddol pellach.
“Rydym yn annog busnesau o bob maint i gymryd rhan yng nghyfres y Weledigaeth Werdd a manteisio ar ein cynnig ymgynghori un-i-un i greu cynllun gweithredu gwyrdd pwrpasol.
“Mae’n ffaith fod rhai busnesau ond yn barod i weithio gyda’r rhai sy’n gallu dangos eu hymrwymiadau gwyrdd.
“Felly mae gwneud y newidiadau hyn cyn gynted â phosibl o fudd i chi, gan fod perygl i chi gael eich gadael ar ôl fel arall.”
Mae cyfres y Weledigaeth Werdd ar agor i bob busnes yng Nghymru, ac fe fydd modd iddyn nhw siarad â chynghorwyr penodol am sut i fod yn fwy eco-gyfeillgar o gwmpas y digwyddiadau.
Gall unrhyw un archebu lle ar wefan Busnes Cymru.