“Diolch yn fawr” oedd neges yr actores o Gymru, Joanna Scanlan wrth iddi dderbyn gwobr yr Actores Orau yn seremoni BAFTA yn Llundain neithiwr (nos Sul, Mawrth 13).

Roedd hi’n ddagreuol wrth ddweud mai hon oedd “y wobr fwyaf y gallwn anelu ati”.

Enillodd hi’r wobr am ei phortread yn After Love o ddynes sydd wedi troi at Islam, wrth iddi ddatgelu bywyd cudd ei diweddar ŵr.

Enillodd Joanna Scanlan, 60, yr un wobr yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain.

Yn enedigol o Lannau Mersi, cafodd ei magu ym Mangor ac yna yn Rhuthun lle’r oedd ei rheini’n rhedeg Gwesty’r Castell.

“Dw i’n anghrediniol, a bod yn onest,” meddai am ei gwobr ar ddiwedd y noson.

“Dw i’n teimlo’n sigledig, dydy bywyd ddim eto wedi dal i fyny efo fi.”

Dywedodd ei bod hi eisiau cael rôl mewn ffilm fer nesaf, “a chlyweliad ar gyfer Bond”.

Talodd hi deyrnged hefyd i’r cyfarwyddwr Aleem Khan, am roi’r ffilm at ei gilydd mewn “ffordd anhygoel” ac am “weledigaeth hollol ddigyfaddawd”.

Yr enillwyr yn llawn

‘Llongyfarchiadau’

Mae S4C wedi llongyfarch Joanna Scanlan am ei gwobr, a hithau wedi ymddangos yn y gyfres Iaith Ar Daith y llynedd wrth iddi fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Cafodd hi ei pharu gyda Mark Lewis Jones, a dywedodd ei bod hi am ddysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad yr iaith â’i nith.

Yn ôl S4C, bydd hi’n dychwelyd i’r sianel yn y gwanwyn wrth ymddangos yn y ddrama newydd Y Golau.

Bydd hi’n serennu yn y gyfres chwe phennod ochr yn ochr ag Iwan Rheon ac Alexandra Roach.