Fe wnaeth sawl Cymro a Chymraes dorri record byd – yn rhai mawr a bach – ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.

Ymhlith y campau rhyfeddaf roedd tynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf, sleisio’r nifer fwyaf o bitsas mewn tair munud, a chelain-godi’r car trymaf mewn munud.

Roedd ymdrechion i dorri 11 o recordiau byd swyddogol Guinness World Records i gyd, ac fe fydd y cyfan i’w weld ar S4C ar nos Wener, Mawrth 25 am 9 o’r gloch.

Ym Methesda, aeth y gyflwynwraig ac athletwraig Lowri Morgan ati i ddadrolio’r faner fwyaf – 101.4 metr sgwâr ar wifren wib – o fewn deg eiliad ac wrth symud ar gyflymdra o 70m.y.a. mewn glaw a niwl.

Taflu iâr rwber – a llyfr Guinness World Records – yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd oedd tasg y paralympiwr Aled Siôn Davies.

“Dwi angen meddwl am y dechneg a siâp y llyfr,” meddai yn y rhaglen, wrth iddo edrych ymlaen at y dasg o’i flaen.

“Dwi’n meddwl byddai’n defnyddio’r un dechneg â discus gan fod y siâp rhywbeth yn debyg, a jest gweld sut mae’n mynd.

“Ond efo’r iâr rwber – dwi jest am ei daflu! Dwi erioed wedi taflu iâr rwber o’r blaen! 19.81m sydd raid iddo fynd. Sa i’n credu bydd e’n hedfan yn bell iawn, ond gawn ni weld!”

Ymhlith yr ymdrechion eraill roedd:

  • Codi’r pwysau mwyaf mewn munud gan ddefnyddio cerrig atlas (gwryw): Jason Jones
  • Codi’r pwysau mwyaf mewn munud gan ddefnyddio cerrig (benyw): Jemma Stubbs
  • Tynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf (gwryw): Gareth Pugh
  • Tynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf (benyw): Nicky Walters
  • Tynnu’r cerbyd trymaf (rhan uchaf y corff) (benyw): Nicky Walters
  • Celain-godi’r car trymaf mewn munud (benyw): Jemma Stubbs
  • Y flilltir gyflymaf yn rheoli pêl tenis: Josh Griffiths
  • Sleisio’r nifer fwyaf o bitsas mewn tair munud: Rory Coughlan-Allen
  • Uwchlwytho’r nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i Facebook a Twitter mewn awr: i ddathlu ei ben-blwydd yn 100 oed ar 25 Ionawr, ymunodd llawer o ysgolion, cymdeithasau, sêr Hollywood a phobl Cymru â’r dathlu, gan ganu’r anthem Hei Mr Urdd.