Wedi dros ddwy flynedd o aros, mae Côr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn dychwelyd ar gyfer eu hymarfer cyntaf yn ôl heno (nos Lun, Mawrth 14).

Ar gyfer cyngerdd agoriadol yr ŵyl eleni ar nos Wener, Gorffennaf 29, fe fydd y côr yn rhan flaenllaw o’r sioe theatrig Lloergan, sy’n cyfuno celfyddydau a gwyddoniaeth mewn ffordd unigryw.

Cafodd y sioe honno ei chomisiynu tua saith mlynedd yn ôl bellach, wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd, Prifysgolion Cymru a’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol ffurfio partneriaeth arbennig.

Roedd disgwyl i’r sioe weld golau dydd yn 2020, ond cafodd yr Eisteddfod honno yn Nhregaron ei gohirio ddwywaith oherwydd y pandemig, ond mae’n debygol y bydd hi’n mynd yn ei blaen eleni.

Yn rhan o’r tîm artistig mae’r gyfarwyddwraig Angharad Lee, y sgriptwraig Fflur Dafydd, y cyfansoddwyr Griff Lynch a Lewys Wyn, yn ogystal â’r cyfarwyddwr cerdd Rhys Taylor.

‘Wedi gweld ishe’r côr’

“Mae’n rhyddhad, mae’n rhaid cyfaddef,” meddai Rhys Taylor.

“Mae dros ddwy flynedd ers i ni gael ein hymarfer olaf, felly mae e’n fwy o rywbeth cymdeithasol yn hytrach na cherddorol, achos pan ti’n cael 200 o bobol yn canu mewn ystafell, ti’n teimlo’n agos atyn nhw.

“Dw i wedi gweld eisiau’r côr a fydda i’n falch iawn o gael gweld nhw i gyd eto, a gobeithio cwpwl o wynebau newydd heno.”

‘Argoeli’n dda’

Ar gyfer yr ymarfer cyntaf yn ôl, mae’r trefnwyr yn disgwyl tua 160 o gantorion yn Neuadd Y Celfyddydau ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

“Mae wedi bod yn anodd iawn,” meddai Rhys Taylor wedyn.

“Fel criw artistig, felly’r gyfarwyddwraig, y sgriptwraig, y cyfansoddwyr, a finnau fel cyfarwyddwr cerdd, mae wedi bod yn anodd iawn i ni greu rhywbeth gweledol a chlywedol heb wybod faint o bobol fyddwn ni’n cael efo ni. P’un ai fyddai e’n ddeg o bobol neu 200 ac os byddai llwyfan o gwbl.

“Ond rydyn ni wedi gwneud ein gorau, a diolch byth, mae’r cyfyngiadau yn golygu ein bod ni’n gallu cael faint bynnag yr ydyn ni eisiau yn yr ymarfer heno.

“Mae’n argoeli’n dda, a jyst gobeithio bydd pethau yn aros yn iawn ar gyfer yr Eisteddfod ym mis Awst.”

Dod â’r gofod i Dregaron

Yr awdures a’r gantores Fflur Dafydd sydd wedi creu’r stori a’r sgript ar gyfer Lloergan.

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu llyfr i gyd-fynd â’r sioe, gyda stori sydd wedi ei seilio yn y dyfodol ac yn dilyn hanes gofodwraig o Geredigion.

Yn ôl Rhys Taylor, fe fydd y sioe yn cynnwys popeth o ddawnsio, canu a chwarae offerynnau, gydag unawdwyr a band arbennig yn ymuno â’r côr.

“Bydd e’n fwy o sioe gerdd yn hytrach na chyngerdd,” meddai.

“Os ydyn ni’n gallu parhau i wneud beth ydyn ni am ei wneud o ran iechyd a diogelwch, fydd e’n sioe fawr newydd sbon, cyffrous, a gwahanol yn slot y cyngerdd agoriadol.”

‘Bwrlwm o gwmpas y sioe’

Eglura Rhys Taylor ei fod e wedi cael sioc ar yr ochr orau o weld yr ymateb i ail-gychwyn ymarfer, wrth ystyried nad pawb fyddai’n gyffyrddus mewn ystafell llawn pobol ar ôl dwy flynedd o gyfnodau clo.

“Mae e wedi bod yn anodd rhagweld sut fyddai pobol yn teimlo os dw i’n hollol onest,” meddai.

“Roedden ni’n meddwl efallai y byddai yna gymysgedd o deimladau – pobol yn edrych ymlaen, ond efallai rhai yn betrusgar o fynd i ŵyl lle mae cymaint o bobol.

“Ond wedyn y teimlad dw i’n ei gael, a’r ymateb rydyn ni wedi ei gael wrth roi’r alwad allan i’r côr, mae wedi bod yn sioc enfawr, achos oedden ni ddim yn meddwl y byddai cymaint yn dod yn ôl.

“Yn amlwg, mae yna fwrlwm o gwmpas y sioe a’r côr, a dw i’n cael y teimlad bod yna fwrlwm yn enwedig yn y sir, achos rydyn ni mor awyddus i gael yr Eisteddfod gan ei bod hi wedi bod yn ddwy flynedd.

“Dw i’n credu bydd pawb yn dod at ei gilydd a rhoi dros gant y cant i greu gŵyl mae’r sir yn haeddu ei chael.

“Fydd pob cystadleuaeth, pob rhagbrawf a phob eiliad i gyd yn foment haul ar fryn, achos fydd pawb jyst mor falch i fod yna.”