Y perfformiwr amryddawn Carys Eleri fydd yn cael ei darlunio ar y rhaglen Cymry ar Gynfas ar S4C heno (nos Lun, Mawrth 14, 8 o’r gloch).
Mae’r gyfres yn dod ag artist a pherson adnabyddus ynghyd bob wythnos i greu portread unigryw ac yn ogystal â champwaith wythnosol sy’n cael ei ddatgelu ar ddiwedd pob rhaglen, mae portread gonest ac agored o’r artist a’r person enwog wrth iddyn nhw drafod eu profiadau o ddarlunio ac o gael eu darlunio.
Hon yw’r bennod olaf yn y gyfres bresennol, ac mae’n canolbwyntio ar yr actor, awdur, canwr, cyfansoddwr a chomedïwr o Sir Gaerfyrddin, sy’n cydweithio â’r artist Aron Evans o Gaerdydd.
Mae Aron Evans yn ymddiddori mewn technoleg, gan gyfuno gwaith animeiddio gydag effeithiau arbennig yn ei waith arlunio.
“Mae gwneud comisiwn ble wyt ti’n paentio rhywun, mae rhaid i chi ddod i nabod rhywun oherwydd mae’r stori dych chi’n ddweud ddim jyst am sut mae person yn edrych, ond beth yw eu diddordebau nhw, beth sy’n pwsho nhw, beth sy’n ecseitio nhw.
“Mae rhaid i chi gael yr holl ecosystem, ynde.”
Yr Ardd Fotaneg
Yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin yw lleoliad y bennod, wrth i Carys Eleri ac Aron Evans gwrdd am y tro cyntaf.
“Wnes i ddewis cwrdd yn y gerddi botaneg achos bod e’n rhywle sydd wedi canoli fi yn ystod y clo mawr,” meddai Carys Eleri.
“Pum munud lawr yr heol a bydden i’n jyst gallu bod yn y lle yma yn llawn planhigion hyfryd.
“Mae planhigion Cymru yna, ac mae planhigion y byd yna.
“So, i fi, mae’n rhywle sy’n cynrychioli Cymru a’r holl fyd.
“Mae mynd i’r gerddi yn rhywle fi’n gallu cysylltu gyda rhywbeth sy’n fwy na fi.
“Gyda galar a cholled – colli ‘nhad, colli’n ffrind – oedd e wastad yn bwysig i fi i fod mewn sefyllfa humbling, lle oedd e’n cael gwared â’r ego.
“I fi, mae bod mewn lle sy’n llawn planhigion dieithr, estron, a lleol – rhywbeth sy’n mynd i fodoli lot hirach na fi ar y ddaear, creigiau’r oesoedd a hwnna i gyd – mae fe’n humbling, ac mae fe’n atgoffa fi bod fi’n bart o rywbeth lot yn fwy na jyst fi.”
Argraffiadau’r artist o’r perfformiwr
Ar ôl sgwrsio ymhlith planhigion o bedwar ban byd, beth felly oedd argraffiadau yr artist Aron Evans o Carys Eleri?
“Ma hi’n berson ysbrydol iawn, dyna’r peth cyntaf dwi’n meddwl,” meddai.
“Mae hi’n siŵr iawn o ble mae’n eistedd yn ei chynefin hi, ac mae’n berson sy’n gyffyrddus yn rhyngwladol hefyd.
“A dwi’n meddwl bod hi’n berson reit rounded yn y ffordd yna.”
Tebygrwydd a phersonoliaeth?
Gyda’r dadorchuddio’n digwydd wythnosau’n ddiweddarach yng Ngofod Celfyddydau Coed Hills, ydy Aron Evans wedi llwyddo i ddal tebygrwydd a phersonoliaeth Carys Eleri?
“Fi’n siŵr bydda i’n dwlu ar y llun. Ond os bydda i ddim…beth fi fod i neud?” meddai Carys Eleri.
Mae gweddill y gyfres, gyda Liz Saville Roberts AS yn cael ei phortreadu gan Lowri Davies, Arfon Haines Davies gan John Rowlands, yr actor Sharon Morgan gan Teresa Jenellen, y cerddor Mei Gwynedd gan Steffan Dafydd, a’r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies gan Meuryn Hughes, ar gael ar S4C Clic.