Mae partneriaeth sydd ar y gweill ers rhai misoedd yng Ngheredigion yn pwysleisio bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr Cymraeg a phobol ddi-Gymraeg.
Ers nifer o fisoedd, mae Cered: Menter Iaith Ceredigion a Radio Aber wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i greu rhaglen radio wythnosol arloesol yn trafod popeth Cymraeg.
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei darlledu bob dydd Iau am 12 o’r gloch, yn cael ei darlledu yn Saesneg dan y pennawd Cymru United.
Neges allweddol y sioe yw bod yr Iaith Gymraeg yn perthyn i bawb – o siaradwyr Cymraeg rhugl a’r rhai sy’n dysgu Cymraeg i rai sydd efallai ond yn adnabod ychydig eiriau Cymraeg.
“Rydym yn anghofio’n aml am gyfraniad enfawr y rhai di-Gymraeg i’r Gymraeg er enghraifft yr holl rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ond sydd wedi dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant,” meddai’r cyflwynydd Rhodri Francis.
Mae’r sioe yn cyfuno cerddoriaeth a sgwrs, ac mae’r gwesteion yn dewis eu hoff ganeuon Cymraeg ac yn trafod eu bywydau, eu gwaith a’u perthynas â’r Gymraeg.
‘Y math o arloesi sydd ei angen i hyrwyddo’r Gymraeg’
“Mae Ceredigion yn parhau i fod yn un o’r siroedd hynny lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol o ddydd i ddydd ond rhaid cofio bod dros 50% o’r boblogaeth yn ddi-Gymraeg a’r ffigwr sy’n gweld eu hunain yn Gymry ymhlith yr isaf yng Nghymru ar 52%,” meddai Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered.
“O’r herwydd, efallai mai rhaglen radio fel Cymru United yw’r math o arloesi sydd ei angen arnom er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant i bawb ac nid dim ond y rhai sydd eisoes yn gallu siarad Cymraeg.”
Mae Cymru United yn fyw ar Radio Aber am 12pm bob dydd Iau. I wrando ewch i www.radioaber.cymru.