Fe fydd 70 o ffilmiau neu gyfresi ar Netflix yn cael eu trosi i’r Gatalaneg, y Fasgeg a’r Galiseg bob blwyddyn ar ffurf is-deitlau neu droslais.

Bydd yr opsiwn ar gael ar gyfer rhai o ffilmiau neu gyfresi mwyaf newydd y llwyfan byd-eang, gan gynnwys Hustle (Adam Sandler), Emily in Paris, Pinocchio gan Guillermo del Toro, The Mother, Sandman a Garra.

Bydd y gwasanaeth ffrydio fideo’n cynyddu eu catalog rhyngwladol gan 200 awr o ddeunydd ychwanegol yn y Gatalaneg, ac yn ychwanegu 20 awr o gynnwys i blant.

Bydd mwy o fideos a rhaglenni teledu’n cael eu hychwanegu dros gyfnod o amser fel bod y 70 darn ar gyfer y flwyddyn yn eu lle erbyn diwedd 2022.

‘Cam cyntaf’ ond ‘newyddion da’

Yn ôl y wefan Catalan News, mae’r gweinidog diwylliant Natàlia Garriga yn dweud bod cyhoeddiad Netflix yn “newyddion da iawn” ond yn “gam cyntaf yn unig”.

Daw hyn ar ôl i’w swyddfa fod yn trafod â Netflix ers rhai misoedd.

“Mae’n flaenoriaeth cael mwy o gatalog ar gael yn yr iaith Gatalaneg,” meddai.

Er mai Netflix yw’r llwyfan cyntaf i ychwanegu’r Gatalaneg at eu catalog, mae’n dweud bod mwy o lwyfannau’n barod i ddilyn eu hesiampl.

Dim ond 0.5% o gynnwys Netflix sydd wedi bod ar gael yn yr iaith hyd yn hyn, yn ôl astudiaeth gan Gyngor Clyweledol Catalwnia a gafodd ei chyhoeddi ar Chwefror 1.

30 o deitlau oedd ar gael yn yr iaith ar adeg yr astudiaeth – dim ond 0.3% (naw teitl) oedd ar gael yn 2020.

Cyfreithiau clyweledol Sbaen

Daw’r cyhoeddiad gan Netflix yng nghanol ffrae rhwng llywodraethau yn Sbaen tros gyfreithiau clyweledol.

Er mwyn i Lywodraeth Sbaen gael pasio Cyllideb 2022, roedd yn rhaid iddyn nhw ddod i gytundeb â phlaid Esquerra Republicana, y blaid fwyaf o blaid annibyniaeth yng Nghyngres Sbaen.

Daethon nhw i gytundeb ym mis Tachwedd er mwyn sicrhau bod 6% o gynnwys llwyfannau megis Netflix yn ieithoedd lleiafrifol Sbaen ond ar hyn o bryd, does dim cyfraith i warchod y cytundeb.

Bydd 10.5m Ewro ychwanegol yn cael ei neilltuo i hyrwyddo cynnwys yn yr ieithoedd brodorol.

Fel rhan o’r gyfraith, bydd rhaid i gwmnïau megis Netflix, HBO ac Amazon Prime gynnig cynyrchiadau Ewropeaidd mewn 30% o’u cynnwys ac o blith y rheiny, rhaid i’w hanner nhw fod yn ieithoedd lleiafrifol Sbaen.

Mae hynny’n cyfateb i 15% o’r cyfanswm, gyda 40% yn y Gatalaneg, y Fasgeg neu’r Galiseg – ac mae hynny’n cyfateb i 6% o’r holl ffilmiau a chyfresi a 20% o’r cynnwys Ewropeaidd.