Mae cynhyrchydd sioe banel gomedi a gafodd ei darlledu ar deledu BBC Cymru neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 15) yn dweud ei fod yn “gam seismig” i gomedi yng Nghymru.

Kiri Pritchard-McLean fu’n cyflwyno What Just Happened?, sioe banel newydd sbon sydd wedi’i chreu gan Henry Widdicombe, ar y cyd â Robin Morgan sy’n serennu yn y sioe ochr yn ochr â Priya Hall.

Cafodd ei chyfarwyddo gan Stuart Laws.

Y gwesteion yn y bennod oedd Leroy Brito ac Anna Thomas, wrth i’r panelwyr drafod newyddion Cymru a’r byd drwy lygaid Cymreig gan addo “na fyddai’r un stori newyddion yn ddiogel”.

Y rhaglen

Mae’r rhaglen eisoes wedi ymddangos ar ffurf cwis radio ar Radio Wales, a hynny wrth edrych yn ôl ar benawdau 2021.

Cafodd y bennod beilot ei ffilmio yn y Barri.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda’r olwyn newyddion, sy’n cynnig cyfres o bynciau i’r panelwyr, yn ddigon tebyg i Mock the Week, ac mae gofyn iddyn nhw roi eu sbin ar ddigwyddiadau’r wythnos.

Mae rownd arall yn gweld panelwyr yn gwylio fideo newyddion ac yn gorfod dyfalu pa eiriau neu frawdddegau sydd wedi cael eu blîpio allan.

Yn y drydedd rownd, mae’r panelwyr yn gorfod rhoi gair i gall i enwogion o Gymru sydd wedi bod yn y newyddion – o Michael Sheen sydd wedi cyhoeddi ei fod e’n mynd i fod yn dad eto, i’r prif weinidog Mark Drakeford sydd wedi arwain y genedl drwy’r pandemig Covid-19.

Mae’r bedwaredd rownd yn gofyn i’r panelwyr ddyfalu a yw pennawd ar y sgrîn yn bennawd go iawn o Wales Online neu’n bennawd sydd wedi cael ei chreu’n unswydd ar gyfer y rhaglen.

Yn y rownd olaf, rhaid i’r panelwyr ddyfalu o dudalen Twitter pwy mae dyfyniadau penodol wedi dod.

Cyfle enfawr o gael rhaglen “yng Nghymru, am Gymru”

“Hyd y gwyddom ni, dyma’r tro cyntaf i BBC Cymru gomisiynu sioe banel gyfoes i’r teledu. Mawr,” meddai Henry Widdicombe mewn edefyn ar Twitter, wrth fynd ati i egluro arwyddocâd comisiynu a darlledu’r rhaglen.

“Os yw’n mynd yn gyfres, hyd y gwyddom ni, hon fyddai’r sioe banel gyfoes ERIOED yn y Deyrnas Unedig gyda merch yn cyflwyno (pob pennod). Mawr.

“Am nifer o flynyddoedd, un o’r prif lwybrau i mewn i gomedi yw ysgrifennu ar gyfer y sioeau cyfoes welwch chi ar deledu a radio.

“Mae’r rhain bron i gyd yn digwydd yn Llundain ac felly, mae doniau Cymreig wedi bod ar felin draed i Lundain i gael mewn i’r diwydiant.

“Byddai comisiynu’r sioe yn rhoi cyfle enfawr i ddoniau Cymreig gael bod mewn ystafell awduron ac ar gamera YNG NGHYMRU yn siarad AM GYMRU. Mae hwn yn gam gwirioneddol arwyddocaol, os nad seismig, i gomedi Cymreig.”