Mae cynlluniau i adeiladu arena newydd ym Mae Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor y Ddinas.
Bydd yr arena yn gallu croesawu hyd at 17,000 o bobol i ddigwyddiadau, ac fe fydd yn rhan o gynlluniau ehangach ar gyfer Glanfa’r Iwerydd.
Yn ystod y cyfarfod heddiw (dydd Mercher, Mawrth 16), roedd ambell i gynghorydd wedi beirniadu edrychiad yr arena arfaethedig, yn ogystal â’r diffyg llefydd i gadw beics.
Cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan y pwyllgor cynllunio, sy’n golygu y bydd pencadlys presennol y Cyngor yn Neuadd y Ddinas yn cael ei ddymchwel i wneud lle i’r datblygiad newydd.
‘Does dim modd tanddatgan pwysigrwydd yr arena’
Yn ogystal â’r arena, a fydd yn agor ar ddechrau 2025 yn ôl y disgwyl, bydd Canolfan Red Dragon, sy’n cynnwys nifer o unedau masnachol, hefyd yn cael ei ailadeiladu o dan y cynlluniau newydd.
Ar ben hynny, bydd 890 o fflatiau, gwestai, amgueddfeydd, swyddfeydd, maes parcio i 1,300 o gerbydau, a sgwâr cyhoeddus yn rhan o’r cynlluniau ym Mae Caerdydd.
Ond mae’n debyg mai dim ond caniatâd cynllunio ar gyfer yr arena sydd wedi ei roi gan y Cyngor heddiw, a bydd rhaid gwneud ceisiadau pellach ar gyfer gweddill y datblygiadau.
“Bydd yr arena dan do newydd yn un o brif atyniadau ymwelwyr y Deyrnas Unedig ac yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach ym Mae Caerdydd,” meddai’r Cyng. Russell Goodway, yr aelod cabinet ar gyfer buddsoddi a datblygu.
“Bydd y buddion ariannol a ddaw yn ei sgil i Butetown a’r ardal ehangach yn sylweddol gyda hyd at 2,000 o swyddi eu hangen yn ystod y cyfnod adeiladu a 1,000 o swyddi pellach yn cael eu creu unwaith y bydd prif gynllun Glanfa’r Iwerydd wedi’i gyflawni.
“Byddai prif gynllun Glanfa’r Iwerydd yn gweld gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i’r parth cyhoeddus ac i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â’r Bae.
“Does dim modd tanddatgan pwysigrwydd yr arena newydd, a fydd yn rhoi hwb i gam nesaf yr adfywio ym Mae Caerdydd.
“Mae penderfyniad y pwyllgor cynllunio heddiw yn dod â ni’n agosach at ddarparu arena dan do newydd a allai fod ar agor i’r cyhoedd erbyn 2025.”
‘Diflas’
Mae’r datblygwyr Robertson Group a’r cwmni fydd yn gweithredu’r arena, Live Nation UK, wedi croesawu’r penderfyniad.
Ond mae rhai cynghorwyr yn cwestiynu lliw’r arena, yn ogystal â’r diffyg lle i barcio beics.
“Mae hwn yn edrych yn ddiflas iawn,” meddai’r Cynghorydd Keith Parry.
“Fel ychwanegiad i Fae Caerdydd, mae’n adeilad du, gwael.”
Wrth ymateb i hynny, dywedodd y Cynghorydd Keith Jones, cadeirydd y pwyllgor, fod y lliw i fod i “gynrychioli glo a gorffennol Caerdydd a Chymru”.
Mae arena arall wedi agor ei drysau yn Abertawe, gydag enwau mawr fel Alice Cooper, Elvis Costello a Royal Blood yn perfformio yno yn nes at yr haf.