Mae gan Lywodraeth Cymru “bryderon difrifol” am effaith ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol ar ddatganoli, medd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig lansio ymgynghoriad tri mis i ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynigion y llywodraeth i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol a sefydlu Bil Hawliau yn ei lle.

Byddai cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu na fyddai angen i is-ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig fod yn gydnaws â hawliau confensiwn ac na fyddai modd ei herio drwy adolygiad barnwrol.

Mae yna ofidion hefyd ymhlith Gweinidogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â beth allai’r cynlluniau arfaethedig ei olygu i gyfraith Cymru.

‘Mater cyfansoddiadol difrifol’

“Fel y gwyddoch, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wrth wraidd datganoli yng Nghymru,” meddai Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, yn ystod y Cyfarfod Llawn yn Senedd Cymru heddiw (dydd Mercher, Mawrth 16).

“Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diogelu cydymffurfiaeth â hawliau’r confensiwn ac fe’i pleidleisiwyd ddwywaith gan refferenda gan bobol Cymru.

“O gofio bod Llywodraeth San Steffan yn honni ei bod yn parchu refferenda, mae’n syndod eu bod o bosibl yn fodlon tynnu’r pŵer hwn oddi ar bobol Cymru i ddwyn Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon i gyfrif.

“Os bydd Llywodraeth San Steffan yn gweithredu ei newidiadau arfaethedig, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried pa effaith y byddai hynny’n ei chael ar statws cyfraith Cymru?”

Wrth ateb, dywedodd Mick Antoniw fod “hwn, yn wir, yn fater cyfansoddiadol difrifol oherwydd fel yr ydych wedi sôn, mae hawliau dynol wedi’u gwreiddio yn ein statws cyfansoddiadol”.

“Byddwch yn gwybod, wrth gwrs, fod gennym bryderon difrifol ynghylch natur yr ymgynghoriad,” meddai wedyn.

“Er ei fod yn sôn am ddatganoli, nid yw’n delio â’r materion datganoledig sydd yno, ac mae’n peri pryder inni pan fydd sôn am ‘chwyddiant hawliau’, hynny yw fod gennym ormod o hawliau – yn ôl pob tebyg.

“Mae ei methiant hi i geisio mynd i’r afael â materion hawliau economaidd-gymdeithasol hefyd yn peri pryder.

“Ond o ran y pwynt cyfansoddiadol penodol pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwrw ymlaen yn groes i argymhellion ei hadolygiadau annibynnol blaenorol, yna byddai’n rhaid i ni ystyried beth yw’r goblygiadau i gyfraith Cymru.

“Bydd yn rhaid i ni ystyried beth yw’r opsiynau o ran sut rydym yn cadw statws cyfraith a safonau hawliau dynol o fewn ein deddfwriaeth ein hunain.

“Mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn ei ystyried ar hyn o bryd, a byddaf, os oes angen, yn adrodd yn ôl maes o law.”