Ar Ddydd San Padrig heddiw (dydd Iau, Mawrth 17), mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi briff ar gyfer cynllunio a chreu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, sydd yn cael ei chyflwyno gan deulu’r diweddar Dafydd Orwig, un a fu mor gadarn ei ymroddiad i’w gymuned leol yng Ngwynedd, ac a dreuliodd ran helaeth o’i blentyndod cynnar yn Iwerddon.

Cafodd y cyfnod yma y tu allan i Gymru ddylanwad ar yr addysgwr ac arloeswr amlwg drwy’i oes, ac mae’r teulu’n awyddus i ddathlu’r cysylltiad yma rhwng Cymru ac Iwerddon wrth gyhoeddi manylion y briff ar gyfer cynllunio a chreu’r Gadair.

Wrth gofio a dathlu bywyd a chyfraniad arbennig Dafydd Orwig, mae’r teulu hefyd yn awyddus i sicrhau bod gwreiddiau’r Gadair yn llythrennol ym mro’r Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd, felly mae’r coedyn ar gyfer y Gadair eisoes wedi’i ddewis, sef un o goed derw gwreiddiol y Lôn Goed, a gafodd ei blannu tua 200 mlynedd yn ôl, ac a gafodd ei anfarwoli gan gerdd R Williams Parry, Eifionydd.

Disgynnodd y coedyn mewn storm tua saith mlynedd yn ôl.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i berchnogion fferm Tyddyn Heilyn, Chwilog, Mr a Mrs Williams, am gynnig y pren i gynllunydd y Gadair.  Mae’r ffaith ein bod ni’n cael y cyfle i wneud defnydd newydd ac amgen o goedyn oedd wedi’i golli mewn storm yn apelio’n arw atom ni fel teulu,” meddai Huw Orwig ar ran y teulu.

“Gyda chymaint o sôn am stormydd yn creu difrod cynyddol i’n cynefinoedd dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n braf meddwl ein bod ni’n gallu defnyddio coedyn a fu’n rhan o lenyddiaeth ein gwlad yng ngherdd R Williams Parry er mwyn anrhydeddu’r bardd buddugol ar lwyfan y Pafiliwn ym mis Awst 2023.”

Llechen neu lechi

Yn ogystal â defnyddio coedyn eiconig o’r Lôn Goed, mae’r teulu hefyd yn awyddus i weld llechen neu lechi fel rhan o gynllun y Gadair, o gofio mai un o blant Bro’r Llechi oedd Dafydd Orwig.

Mae gan y teulu ddyhead hefyd i weld Cadair a fydd yn y pen draw ar waith mewn tŷ, fel rhan o ddodrefn arferol y cartref, ond Cadair a fydd hefyd yn edrych yn drawiadol ar lwyfan eang y Brifwyl, gan adlewyrchu urddas y seremonïau drwy gydol yr wythnos.

Mae’r briff llawn ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ar gael i’w ddarllen ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru/2023-briff-cadair, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu gyda Huw Orwig ar huworwig@gmail.com am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 1 Mehefin 2022.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ar gyrion Boduan rhwng Awst 5-12 2023.